“Gyda’r Llywodraeth yn gwrthod y galwadau i gael gwared â’r bwrdd iechyd, gallai ymchwiliad cyhoeddus o leiaf cynnig atebion i gleifion a staff” - Rhun ap Iorwerth AS

Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher 8 Mawrth) wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Daw’r galwadau yn dilyn cyfres o adroddiadau damniol a arweiniodd at roi’r Bwrdd Iechyd yn ôl mewn i fesurau arbennig - ychydig dros ddwy flynedd ers iddo ddod allan.

Mae Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd y blaid ar iechyd a gofal, ac Aelod Senedd Ynys Môn, wedi galw dro ar ôl tro i fyrddau iechyd newydd, sy’n llai o faint i gymryd lle Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ond gyda’r alwad honno’n cael ei gwrthod gan y Llywodraeth, dywedodd bod yn rhaid sefydlu ymchwiliad cyhoeddus llawn i “ddiogelu cleifion” rhag problemau hir-sefydlog gyda’r bwrdd iechyd, sydd eto i’w datrys yn foddhaol.

Wrth ymateb i Mr ap Iorwerth yn y Senedd heddiw, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan “yn sicr dydw i ddim yn mynd i gytuno gyda’r alwad am ymchwiliad cyhoeddus.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae cleifion a staff Betsi Cadwaladr yn haeddu gwell. Gydag adroddiad damniol ar ôl adroddiad damniol yn manylu ar driniaeth anghywir sy’n cael ei rhoi - hyd yn oed amputations, cleifion yn marw pan na ddylen nhw, ac ar ben popeth, £122 miliwn yn mynd ar goll!

“Mae cwestiynau am strwythurau ac arweinyddiaeth y bwrdd wedi niweidio’r bwrdd iechyd yma ers cymaint o flynyddoedd. Ac yn wir, mae’r bwrdd wedi treulio rhan fwyaf o’i fodolaeth yn derbyn rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Ac eto, mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud mai ‘nid ei gwaith hi’ oedd cael gafael ar bethau.

“Ry’n ni wedi galw am rannu’r bwrdd iechyd - ry’n ni wedi cael gwybod ‘na.’ Rydyn ni wedi galw ar i’r gweinidog iechyd fynd - ry’n ni wedi cael gwybod ‘na.’ A’r holl amser, mae cleifion a staff yn parhau i gael eu trin yn wael, dro ar ôl tro.

“Os na fydd y Gweinidog Iechyd yn rhannu gyda mi, fy uchelgais i edrych ymlaen at gychwyn o’r newydd gyda’r byrddau iechyd newydd, yna mae angen i ni edrych yn ôl yn iawn, er mwyn dysgu mwy am y gwersi sydd angen eu dysgu. Ond dyw hi ddim am wneud hynny chwaith! Rydyn ni’n mynd rownd mewn cylchoedd sy’n lleihau o hyd, ac mae’r Gweinidog Iechyd yn benderfynol o lusgo iechyd yn y gogledd i lawr gyda hi.”