Byddai ethol Llywodraeth Plaid Cymru ar Fai 6ed yn galluogi Cymru i “adeiladu economi newydd” er mwyn trechu anghydraddoldeb, meddai arweinydd y blaid, Adam Price AS, heddiw.

Wrth siarad cyn lansio ymgyrch Etholiad Senedd Plaid Cymru, dywedodd Adam Price mai “rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru” yw’r unig ffordd i “roi diwedd ar dlodi uchelgais o dan Lafur ac i rwystro bygythiad y Torïaid i dynnu Cymru oddi ar y map gwleidyddol”.

Bydd Adam Price yn nodi rhai o addewidion allweddol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad gan gynnwys creu 60,000 o swyddi gwyrdd, hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen newydd yn y gwasanaeth iechyd a thorri bil Treth y Cyngor i deuluoedd cyffredin.

Dywedodd Mr Price mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig rhaglen ar gyfer llywodraeth gyda “deinameg economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog iddi”.

Bydd rhai o bolisïau allweddol Plaid Cymru yn cynnwys:

- Creu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy

- Ysgogiad Economaidd Gwyrdd i greu 60,000 o swyddi

- Ymestyn Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn yn yr ysgol gynradd

- Hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon, 4,000 o nyrsys a 1,000 o weithwyr iechyd proffesiynol arall

- Man gwyrdd o ansawdd da o fewn taith gerdded pum munud i bob cartref

- Diwygio treth y cyngor a thorri'r bil i deuluoedd cyffredin

Wrth siarad cyn lansiad ymgyrch Plaid Cymru, dywedodd Adam Price:

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu y gyd-ddibyniaeth rhwng ein heconomi a gwasanaethau cyhoeddus.

 “Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu her enfawr wrth fynd i’r afael â diweithdra, cefnogi busnesau, a chael ein hysgolion a’r gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd iawn.

 “Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig rhaglen o lywodraeth gyda deinameg economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog iddi.

“Gyda pholisïau uchelgeisiol ond wedi’u costio’n llawn yn amrywio o greu 60,000 o swyddi gwyrdd i hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd, a diwygio’r dreth gyngor er mwyn torri’r bil i deuluoedd cyffredin, bydd Plaid Cymru yn adeiladu economi newydd a fydd yn ffurfio sylfeini Cymru newydd ac annibynnol.

 “Rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru yw’r unig ffordd i roi diwedd ar dlodi uchelgais o dan Lafur ac i rwystro bygythiad y Torïaid i dynnu ein gwlad oddi ar y map gwleidyddol.

“Ni all Cymru aros i Lafur ddod o hyd i ddewrder nac i’r Torïaid ddod o hyd i gydwybod - mae angen egni newydd a syniadau newydd arnom nawr. Dyna'n union y mae pleidlais i Plaid Cymru - pleidlais o blaid Cymru - yn ei gynnig ar Fai 6ed.