ASC Plaid Cymru Dr Dai Lloyd MS yn galw ar i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu slotiau hanfodol cludo bwyd i bobl sydd wedi colli eu golwg

Mae ASC Plaid Cymru Dr Dai Lloyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth ar frys i slotiau siopa ar-lein am fwyd i bobl sydd wedi colli eu golwg.

Mae slotiau siopa blaenoriaeth ar gael yn unig i bobl yn y categori sy’n cael ei warchod, sy’n golygu nad yw pobl ddall a gwan eu golwg yng Nghymru bellach yn gallu cael gwasanaethau cludo bwyd hanfodol, a hyn wedyn yn eu rhoi mewn mwy o berygl o fod yn agored i COVID-19.

Tra bod awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cychwyn system gyfeirio, fel pan fydd rhywun heb gael ei warchod ond sy’n fregus am reswm arall, gallant ddal i gael slot blaenoriaeth ar gyfer cludo, nid yw Cymru eto wedi mabwysiadu’r agwedd hon. Mae hyn yn golygu fod pobl ddall yng Nghymru yn awr yn gorfod dibynnu ar wirfoddolwyr, neu fynd i’r siopau eu hunain.

Tynnodd Dr Dai Lloyd ASC Plaid Cymru sylw at amgylchiadau unigryw pobl ddall a gwan eu golwg, a phwysodd am ddatblygu cynllun hunan-gofrestru debyg i’r un sydd ar y gweill yn Lloegr - neu roi pobl yng Nghymru mewn mwy o berygl diangen.

Mae’r elusen i’r deillion a’r gwan eu golwg RNIB Cymru wedi bod yn derbyn dros 100 o alwadau ychwanegol y dydd i’w llinell gymorth ledled y DG gan bobl sy’n poeni am sut i gael gafael ar eitemau hanfodol.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Olwg, ac Aelod y Senedd Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd,

“Dyma ni yn awr yn ail fis y mesurau cloi, ac y mae pobl ddall a gwan eu golwg yn dal i gael trafferth cael gafael ar eitemau hanfodol sylfaenol fel bwyd.

“Mae’n annerbyniol ac yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i bobl fregus fod mewn mwy o berygl o fod yn agored i COVID-19, oherwydd y cyfyngiadau ar wasanaeth hanfodol oedd gynt ar gael iddynt.

“Nid yw gorfodi pobl fu gynt yn annibynnol i beryglu eu hunain yn ddiangen neu ddibynnu ar wirfoddolwyr yn ateb derbyniol.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Lloegr a chaniatáu i bobl sydd wedi colli eu golwg gael gwasanaethau cludo bwyd hanfodol.”

Dywedodd Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman,

“Mae pobl ddall a gwan eu golwg yn fwy tebygol o ddefnyddio cyffwrdd i symud o gwmpas, ac yn aml, ni fedrant ddweud pa mor bell y maent oddi wrth bobl eraill. Ystyr hyn bod mwy o risg iddynt ddal y feirws o arwynebau ac y mae’n gwneud cadw’r pellter 2 fetr oddi wrth eraill yn anodd, ar y daith i’r archfarchnad ac yn y siop ei hun.

“Mae llawer hefyd yn dibynnu ar dywysydd, gan gydio ym mraich rhywun arall i ffeindio’u ffordd. Os ydynt yn byw ar eu pennau eu hunain neu os nad yw’r tywysydd yn aelod o’u haelwyd, mae perygl i’w diogelwch ac y mae’r dewis o adael y tŷ mewn gwirionedd wedi ei ddwyn ymaith.

“Siopa ar-lein felly yw’r dewis gorau, yn aml iawn.

“Fodd bynnag, mae llawer o bobl ddal a gwan eu golwg yn dweud wrthym fod slotiau cludo o archfarchnadoedd yr arferent ddibynnu arnynt cyn y pandemig wedi ei harchebu am wythnosau, ac y mae hyn yn golygu na allant gael nwyddau hanfodol.”