Ni ddylai Airbnb gymryd unrhyw archebion gwyliau yn ystod y cloi i lawr oherwydd Coronafeirws, medd arweinydd y Blaid yn San Steffan Liz Saville Roberts AS.

Mae’r safle archebu lleoliadau gwyliau yn dal i arddangos cannoedd o hysbysebion am ystafelloedd a chartrefi ledled y DG, gyda llawer ohonynt mewn rhannau prydferth o Gymru. Yr oedd un postiad a dynnwyd i lawr yn ddiweddar am lety gwyliau yn Harlech yn benodol yn targedu “pobl yn dianc o ddinas covid19”.

Mae Ms Saville Roberts wedi cysylltu ag Airbnb i godi’r mater.

Mae pryderon ynghylch faint o gyfleusterau gofal iechyd a meddyginiaethau fydd ar gael, yn ogystal â thensiynau cynyddol mewn cymunedau, wedi arwain at y galwadau gan AS Plaid Cymru.

Galwodd Ms Saville Roberts ar i’r safle wrthod archebion cyn penwythnos y Pasg, lle mae llawer yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n ceisio ymweld â’r ardal.

Meddai Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r canllawiau’n glir – arhoswch yn eich prif gartref, neu byddwch yn peryglu bywydau pobl.

“Trwy barhau i ganiatáu gosod llefydd gwyliau, mae Airbnb yn hwyluso ymddygiad peryglus a hunanol nifer fechan ond arwyddocaol o bobl sy’n anwybyddu’r cyngor.

“Rhaid i’r cwmni rhyngwladol hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd roi’r gorau yn syth i dderbyn archebion yn ystod yr argyfwng, yn enwedig yn y cyfnod cyn penwythnos gŵyl banc y Pasg.

“Does gan gymunedau gwledig mo’r cyflenwadau gofal iechyd na’r meddyginiaethau i ymdopi â thon enfawr o bobl ar eu gwyliau. Mae pobl leol yn gynyddol bryderus a dig; all hyn ddim parhau.

“Rydym eisiau pobl i ddod i weld ein gwlad hyfryd, ond nid nawr. Ni ddylai cyrff fel Airbnb fod yn hwyluso’r ymddygiad hynod anghyfrifol hwn.

“Nid gwyliau cenedlaethol mo hyn: argyfwng cenedlaethol ydyw.”