Yn dilyn pryderon ynghylch faint o arian sydd ar gael i’r diwydiant  celfyddydau o’r £59 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, mae llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant yn dweud fod rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu eglurder

Mae Llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Sian Gwenllian AS, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a’r Gweinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas, i fynegi pryder am y dryswch ynglŷn â faint o arian sydd ar gael i’r celfyddydau.

Yn y llythyr, mae Ms Gwenllian yn nodi ei bod yn ymddangos nad yw’r swm cychwynnol a gyhoeddwyd “yn agos at y swm a fydd ar gael”, ac yn gofyn am esboniad ar ba gyllid fydd ar gael, a sut y bydd yn cael ei ddosrannu i’r diwydiant.

Cyfeiriodd Ms Gwenllian hefyd at lythyr anfonodd hi ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, at y Prif Weinidog wythnos diwethaf, gan awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru “weithio gyda’r sector i greu map penodol” ar gyfer y celfyddydau - galwad a gefnogwyd gan dros saith deg cynrychiolydd o’r diwydiant mewn llythyr agored ac ar-lein gan gannoedd yn fwy.

Cyfeirir at ymgynghoriadau diswyddo ar draws y diwydiant yn y llythyr, gyda Ms Gwenllian yn rhybuddio bod “eisoes yn rhy hwyr i wrthdroi rhai o’r camau”.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Sian Gwenllian AS,

“Roeddwn yn siomedig o glywed yn y Senedd Ddydd Mercher na all Llywodraeth Cymru ddarparu unrhyw eglurder nac yn wir unrhyw wybodaeth bendant i’r sector celfyddydau yng Nghymru ynglŷn â chyllid cymorth Covid, er cyhoeddiad Llywodraeth y DU wythnos ddiwethaf bod £59M ar gael gan y Trysorlys.

“Naill ai mae Llywodraeth y DU wedi cam-arwain sector y celfyddydau yng Nghymru gyda’u cyhoeddiad ac nad oes arian o’r fath - neu mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu anwybyddu’r cyhoeddiad a defnyddio’r arian mewn man arall.

“Mae’r dryswch hwn wedi creu panig o fewn y sector. Maen nhw ar eu gliniau eisoes ac mae nhw’n haeddu eglurder a thryloywder ar frys gan Lywodraeth Cymru. Mae angen eu cefnogi hefyd fel rhan bwysig o'r economi sy’n cyflogi bron i 60,000 o bobl. Ac mae nhw'n haeddu cydnabyddiaeth - mae gan sector y celfyddydau ran hanfodol i'w chwarae yn y broses adfer - gan ein helpu i fynegi a dadansoddi'r hyn rydyn ni i gyd wedi'i ddioddef yn ystod cyfyngiadau Covid.

 

Lythr llawn:

Annwyl Mark Drakeford AS a Dafydd Elis-Thomas AS,

Rwyf yn ysgrifennu atoch yn dilyn pryderon difrifol a godwyd gyda mi ynglŷn â chyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd £59 miliwn ar gael i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.

Mae wedi dod i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf nad yw'r swm hwn mewn gwirionedd yn agos at y swm a fydd ar gael i gefnogi'r celfyddydau.

A allech chi roi esboniad yn fuan os gwelwch yn dda ynglyn â pha arian yn union fydd ar gael i achub sector y celfyddydau ac yn union sut y bydd y cronfeydd hyn yn cael eu dosbarthu i wahanol rannau o'r diwydiant?

Mae'n siomedig iawn na fu unrhyw esboniad na thryloywder am yr arian hyd yma nac am unrhyw gronfeydd posib eraill i gefnogi'r celfyddydau.

Mae breuder y sector wedi'i wneud yn glir ar sawl achlysur ac mae angen brys wrth ymyrryd i atal niwed anadferadwy i'r celfyddydau yng Nghymru.

Mewn llythyr blaenorol gennyf i ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, alwon ni am sefydlu tasglu yn cynnwys cynrychiolwyr y diwydiant, a chynllun clir ar gyfer sector y celfyddydau. Cefnogwyd ein llythyr gan dros saith deg o gynrychiolwyr o bob rhan o'r diwydiant a channoedd rhagor a lofnododd ar-lein. Byddwn yn erfyn arnoch i ystyried mabwysiadu'r dulliau ymyrraeth hyn ochr yn ochr â chymorth ariannol i'r diwydiant i atal colled enfawr o swyddi a difrod parhaol.

Mae ymgynghoriadau diswyddo yn cael eu cynnal ledled Cymru yn y celfyddydau - mae'r cloc yn tician ac mae rhai o'r camau hyn eisoes yn anghildroadwy.

Mae'r sector yn dal i fod mewn limbo. Rhowch yr eglurder y mae'n ei haeddu. Faint o arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddyrannu i gefnogi'r celfyddydau trwy argyfwng Covid a sut y bydd y gefnogaeth yn cael ei dyrannu i sicrhau chwarae teg ar draws y sector?

Byddwn yn gwerthfawrogi ateb cyflym y gallaf ei rannu gyda'r nifer fawr o bobl o bob rhan o Gymru sydd wedi cysylltu â mi yn fy rôl fel Gweinidog Diwylliant yr Wrthblaid o ystyried y diffyg arweinyddiaeth canfyddedig gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn gywir,

 

Sian Gwenllian AS

Gweinidog Cysgodol dros Addysg, y Gymraeg a Diwylliant

 

“Os na fydd y gefnogaeth ariannol yn digwydd yn fuan iawn, bydd y diwydiant ffyniannus yma yng Nghymru yn diflannu dros nos a bydd adferiad yn cymryd blynyddoedd maith.”