Dyw “gosod plastr” dros dlodi yng Nghymru ddim yn datrys y broblem, meddai Helen Mary Jones AS

Mae Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi a Threchu Tlodi, Helen Mary Jones AS wedi dweud y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn codi pob plentyn allan o dlodi llwyr erbyn diwedd tymor nesaf y Senedd.

Ar hyn o bryd mae 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol - gyda 90,000 mewn tlodi llwyr.

Dywedodd Helen Mary Jones, AS Plaid Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi a Threchu Tlodi, fod nifer y bobl mewn tlodi yn Gymru yn “annerbyniol”, a dywedodd bod angen i Lywodraeth Cymru gweithredu ar frys i fynd i’r afael â thlodi yn hytrach na “ gosod plastr” drosto.

Dywedodd Ms Jones hefyd fod nifer y plant sydd angen prydau ysgol am ddim yn symptom o’r tlodi eang yng Nghymru, gan nodi bod y mater wedi dod yn “broblem ddifrifol” a ddylai gael blaenoriaeth yng ngwaith Llywodraeth Cymru i symud ymlaen yn ystod ac ar ôl yr argyfwng presennol.

Aeth ymlaen i ddweud er bod Llywodraeth Cymru wedi sôn dro ar ôl tro mai Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i estyn prydau ysgol am ddim i wyliau’r haf, gyda Lloegr yn gwneud tro pedol yr wythnos hon, ni ddylai plant byth fod mewn perygl o beidio â bwyta os na allant fynychu'r ysgol yn y lle cyntaf, a bod ymyriadau cryfach o lawer yn hanfodol.

Yn ystod Etholiad Cyffredinol 2019, bu Plaid Cymru yn hyrwyddo polisi o roi taliad o £35 yr wythnos ar gyfer plant mewn teuluoedd incwm isel.

Dywedodd Helen Mary Jones, AS Plaid Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi, Trechu Tlodi a Thrafnidiaeth,

“Ar hyn o bryd mae 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae 90,000 o blant yn byw mewn tlodi llwyr. Mae hyn yn sgandal cenedlaethol.

“Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â thlodi eang yng Nghymru yn uniongyrchol, yn hytrach na gosod plastr dro ar ôl tro dros y broblem. Ni fyddaf byth yn deall pam y gollyngwyd y targedau lleihau tlodi plant.

“Cymerwch brydau ysgol am ddim er enghraifft, a’r niferoedd enfawr o blant sy’n eu derbyn ar hyn o bryd. Nid yw hynny'n datrys tlodi. Mae'n symptom ohono.

“Mae trechu tlodi yng Nghymru yn sicr yn dasg sylweddol, ond fel y mae’r pandemig hwn wedi ei gwneud yn glir, mae dosbarthu taliadau uniongyrchol i’r rhai sydd ei angen yn gwbl bosibl, a gellir ei wneud yn eithaf cyflym. Mae dileu tlodi yn bosibl - dim ond yr ewyllys gwleidyddol sydd ei angen i'w gyflawni.

“Pan mewn llywodraeth, bydd Plaid Cymru yn ymrwymo i godi pob plentyn allan o dlodi llwyr. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod byw mewn tlodi yng Nghymru’r 21ain ganrif, ac mae dod â’r sgandal hon i ben yn flaenoriaeth llwyr.”