Plaid Cymru yn galw am roi sicrwydd sydd eu hangen ar denantiaid preifat tra bod cyfyngiadau coronafeirws yn parhau

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad i ymestyn y gwaharddiad ar droi allan y tu hwnt i 31 Mawrth 2021.

Er i gyfraith newydd gael ei phasio yn y Senedd ar 23 Chwefror a oedd yn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid, nid yw hyn yn dod i rym tan ‘gwanwyn 2022’. Er y bydd y gyfraith newydd yn sicrhau bod yn rhaid ymestyn y cyfnodau rhybudd gofynnol yn achos ‘droi allan heb fai’ o ddau i chwe mis, nid yw’n glir beth sy’n digwydd i denantiaid preifat yn y cyfamser – ac yn wir, beth fydd yn digwydd ar ôl 31 Mawrth 2021 ar gyfer pob math o droi allan.

O dan y rheoliadau presennol (Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021), bydd y gwaharddiad ar droi allan, gwahardd beilïaid rhag mynd i dai a’r cyfnodau rhybudd estynedig i gyd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn dros dro i atal y risg y byddai tenantiaid preifat yn cael eu gwneud yn ddigartref yn ystod y pandemig.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygu’r rheoliadau hyn o leiaf bob tair wythnos, ond yn ystod yr adolygiad diwethaf ddydd Iau 18 Chwefror, penderfynwyd na fyddai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud. Mae hyn yn golygu y bydd yr amddiffyniadau ychwanegol hyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

Mae’r pwynt adolygu nesaf yn disgyn ddydd Iau 11 Mawrth, a chyda chyhoeddiad heb ei ddisgwyl tan ddydd Gwener 12 Mawrth, mae’n golygu mai hwn fydd y pwynt adolygu olaf cyn diwedd mis Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi o’r blaen ei bod yn annhebygol y bydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu codi mewn unrhyw ffordd arwyddocaol tan y Pasg ar y cynharaf.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Tai Plaid Cymru, Delyth Jewell AS,

“Mae oedi cyn cyhoeddi estyniad i amddiffyn troi allan yn ymosodiad ar sefydlogrwydd tenantiaid preifat.

“Ar un adeg, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn awyddus i bwysleieio wrthym ei bod yn annhebygol y bydd cyfyngiadau'n cael eu newid yn sylweddol tan y Pasg, ac eto mewn un arall, yn methu ag ymestyn diogelwch i denantiaid preifat, sy’n ofni cael eu troi allan yng nghanol pandemig.  

“Mae pob gohiriad graddol yng ngallu landlord i droi allan yn ymestyn pryder tenantiaid, gan nad oes ganddynt gyfnod hir o amser lle gallant deimlo’n sicr yn eu cartrefi.

“Gyda dim ond un cyfnod adolygu rheoleiddio arall cyn diwedd mis Mawrth, mae dull munud olaf Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cwmwl sy'n uwchben y tenantiaid hyn.”