Dylai dirwyon fod yn “rhwystr gwirioneddol” i bobl nad ydynt yn parchu’r gwaharddiad ar deithio diangen, medd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Gan nodi fod y mwyafrif helaeth yn parchu’r gwaharddiad ar deithio diangen, dywedodd Mr Price nad yw’r neges fod hwn yn “argyfwng cenedlaethol, nid gwyliau cenedlaethol” yn cael ei ddilyn gan “bawb”.

Wrth leisio ei bryder y byddai pobl yn cael eu temtio i deithio i “ail gartrefi, llety gwyliau, neu fynd am ddiwrnod allan” dros benwythnos y Pasg, dywedodd Mr Price y dylai’r sawl nad ydynt yn parchu’r gwaharddiad ar deithio diangen wynebu dirwyon o £1,000 yn y gobaith y bydd hyn yn rhwystr.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru y gallai llawer fod ag ymdeimlad o hiraeth o fethu medru ymweld â Chymru dros wyliau’r Pasg, a dywedodd er y bydd Cymru “o hyd yn hoff o’i hymwelwyr” gofynnodd i ymwelwyr ddangos eu cariad at Gymru trwy “ymweld yn nes ymlaen”.

Meddai arweinydd Plaid Cymru Adam Price:

“Mae mwyafrif helaeth y bobl yn parchu’r gwaharddiad ar deithio diangen ond nid yw’r neges mai argyfwng cenedlaethol, nid gwyliau cenedlaethol yw hwn yn cael ei ddilyn gan bawb.

“Wrth i dywydd teg gael ei addo ar gyfer penwythnos y Pasg, bydd llawer yn cael eu temtio i deithio i ail gartrefi, llety gwyliau, neu fynd allan am y diwrnod.

“Dylai’r sawl nad ydynt yn parchu’r gwaharddiad ar deithio diangen wynebu dirwyon o £1,000 – lefel a all fod yn rhwystr go-iawn.

“Mae Parciau Cenedlaethol ar gau, gwaherddir teithio i ail gartrefi, ac nid yw atyniadau ymwelwyr ar agor.

“Gwn y bydd llawer yn teimlo hiraeth am Gymru, ac er y bydd Cymru yn wastad yn caru ei hymwelwyr, erfyniwn arnoch i ddangos eich cariad at Gymru trwy ymweld yn nes ymlaen.

“Arhoswch gartref, amddiffynnwch ein GIG a’n gwasanaethau cyhoeddus - ac arbed bywydau."