Cyfarfodydd Ymylol

10:40 dydd Gwener

12:45 dydd Gwener

17:10 dydd Gwener

8:30 dydd Sadwrn

  • Conwy | Tŷ Gwynfor | Hyfforddiant Cyfathrebu | Aelodau yn unig

10:40 dydd Sadwrn

13:00 dydd Sadwrn

16:45 dydd Sadwrn


10:40 dydd Gwener - Rhuddlan

Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru

Bil Amaethyddiaeth (Cymru) - blaenoriaethau

Ymunwch ag Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru i glywed eu blaenoriaethau ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

Peidiwch â cholli’r cyfle i drafod gyda'r ddwy undeb ffermio yng Nghymru ynglŷn â sut y gall y ddeddfwriaeth hollbwysig hon ddarparu’r fframwaith ar gyfer polisi amaethyddol y dyfodol yng Nghymru er mwyn cynnal cynhyrchu bwyd, cyflawni amcanion amgylcheddol a diogelu ein ffermydd teuluol, ein cymunedau gwledig a’n diwylliant unigryw ar adeg hollbwysig yn amaethyddiaeth Cymru.

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


10:40 dydd Gwener - Conwy

Diabetes UK Cymru

Meddyginiaeth Ffordd o Fyw i Reoli Diabetes Math 2

Mae dros 209,015 o bobl yn byw gyda diabetes yng Nghymru (mae diabetes Math 2 yn 90% o’r holl achosion), sy’n cyfateb i un o bob 13 o bobl, y lefel uchaf o achosion o unrhyw un o wledydd y DU. Mae ymchwil sy'n dod i'r amlwg yn dangos mai newid ffordd o fyw sy'n darparu'r effaith fwyaf arwyddocaol i helpu pobl i reoli eu diabetes; fodd bynnag, mae meddyginiaethau presgripsiwn yn parhau i fod yn norm.

Dan ofal Rhun ap Iorwerth AS a Diabetes UK Cymru, bydd Dr Nerys Fraser yn rhannu canlyniadau ei phrosiect yn Sir Gâr, yn defnyddio meddyginiaethau ffordd o fyw i reoli diabetes Math 2 i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu rhyddhau.

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


10:40 dydd Gwener - Neuadd - Aelodau yn unig

Uned Ymgyrchu Cenedlaethol

Hyfforddiant NationBuilder

NationBuilder: nid gwefan yn unig ond sail i’ch holl ymgyrch. Dewch i wrando ar Lucie Basset, Arbenigwr ar NationBuilder o Frwsel yn egluro sut allwn wneud y gorau o’n hymgyrchu arlein, o godi arian i e-bost.

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


12:45 dydd Gwener - Rhuddlan

ASCL Cymru, NEU Cymru, ac UCU Cymru

Cymwysterau uchelgeisiol i Gymru?

All TGAU ddim parhau i fod yn fethiant i rai o’r bobl ifanc tlotaf yng Nghymru. Sut ydyn ni’n sicrhau bod yr addewid yn y Cytundeb Cydweithio yn cael ei wireddu a bod y cymhwysterau newydd yn llwyddo i gyd-fynd a’r Cwricwlwm Newydd uchelgeisiol? Byddwn ni yn archwilio’r heriau a datrysiadau posib wrth greu cymhwysterau newydd i Gymru, gan bwysleisio tegwch i ddyswgyr.

Gyda ASCL Cymru, NEU Cymru, ac UCU Cymru; Siân Gwenllian yn cadeirio.

Cinio ar gael

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


12:45 dydd Gwener - Conwy

Comisiwn Profedigaeth y DU - Independent Age

Sut i wella'r gefnogaeth yng Nghymru i unigolion sydd wedi cael profedigaeth

Bydd y cyfarfod yn ymgasglu gwleidyddion, ymchwilwyr academaidd a chynrychiolwyr o elusennau er mwyn trafod sut i wella'r gefnogaeth wedi'r pandemig i unigolion yng Nghymru sydd wedi cael profedigaeth.

Yn cadeirio digwyddiad Comisiwn Profedigaeth y Deyrnas Unedig bydd Dr Idris Baker, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gofal Diwedd Oes.

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


17:10 dydd Gwener - Rhuddlan

Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd

‘System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg’ gyda Richard Wyn Jones

Mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn unigryw. Er bod gan y wlad ei llywodraeth a'i senedd ddatganoledig ei hun, nid oes ganddi system cyfiawnder cyffelyb i’r Alban na Gogledd Iwerddon. Yn hytrach, sefydliadau cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr sy’n parhau i redeg. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru hefyd—yn anochel—yn chwarae rhan ganolog mewn agweddau allweddol ar bolisi cyfiawnder.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil i system cyfiawnder troseddol Cymru, gan ddatgelu litani o ganlyniadau gwael ar draws ystod o feysydd. Nawr, mewn llyfr newydd pwysig a heriol, mae Robert Jones a Richard Wyn Jones yn esbonio sut mae seiliau cyfansoddiadol y system cyfiawnder troseddol Cymru yn arwain at gymhlethdod a diffyg atebolrwydd, ac yn ei gwneud hi bron yn amhosib delio â'i phroblemau.

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


17:10 dydd Gwener - Conwy

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cynghorau Plaid Cymru yn cefnogi cartrefi lleol

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cael cartref diogel a saff mewn cymunedau llewyrchus, ffyniannus a chynaliadwy. Clywch gan arweinwyr cynghorau Plaid Cymru am sut mae eu hawdurdodau yn arloesi ac yn gweithredu i sicrhau tai i gymunedau lleol.

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


17:10 dydd Gwener - Neuadd

Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Sut mae chwalu’r rhwystrau sy’n atal mynediad at gyfiawnder?

Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth ar gyngor cyfreithiol yng Nghymru. Ystyriwn heriau sicrhau cyngor cyfreithiol amserol o safon, a hynny mewn ffyrdd sy'n ateb anghenion gwahanol gymunedau.

Byddwn yn ystyried sut gallen ni wella a chefnogi mynediad at wasanaethau cyfreithiol nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sut gallai newidiadau yn y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu yn sgil Covid greu cyfleoedd i ddefnyddio technoleg er mwyn cynyddu mynediad.

Sioned Williams AS fydd yn y gadair, gyda Rhys ab Owen AS, Fran Targett (Cadeirydd Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol Cymru ac aelod o Gyngor Cyfraith Cymru), a Liz Withers (Pennaeth Materion Cymreig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr).

Lluniaeth ar gael

[i'r brig] [Amserlen dydd Gwener]


8:30 dydd Sadwrn - Conwy - Aelodau yn unig

Tŷ Gwynfor

Hyfforddiant Cyfathrebu

Hanfodion cyfathrebu: o’r wasg i gyfryngau cymdeithasol i ddylunio graffeg. Paratowch i gyfathrebu’r gorau gallwch.

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


10:40 dydd Sadwrn - Rhuddlan - Sesiwn breifat - gwahoddiad yn unig

Electoral Reform Society Cymru

Cynghorwyr Plaid Cymru dros STV mewn partneriaeth ag ERS Cymru.

Gall cynghorau bellach newid y ffordd maent yn ethol eu cynghorwyr. Beth sydd angen ei wneud i wella democratiaeth leol yng Nghymru i'w gwneud yn decach, yn gryfach ac yn fwy amrywiol?

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


10:40 dydd Sadwrn - Conwy

Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau

Cronfa Cyfoeth Cymunedol i Gymru

Ymunwch â’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau i ddarganfod y manteision gwirioneddol y gallai cronfa gyfoeth eu cynnig i gymunedau yng Nghymru, sut y byddai o fudd i gymunedau lleol a bod yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r cyllid arall sydd ar gael. Bydd Claire Pugh o We Are Plas Madoc a Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen yn ymuno â ni i gynnig enghreifftiau o’r math o weithredu cymunedol y gallai cronfa gyfoeth ei gefnogi.

Mae Claire yn gweithio i We are Plas Madoc, sef prosiect cymunedol ar ystâd Plas Madog rhwng Wrecsam a Llangollen â chynllun grant hyblyg deng mlynedd drwy’r rhaglen Buddsoddi’n Lleol sydd wedi eu galluogi i fynd i’r afael â materion ar yr ystâd mewn ffordd hyblyg a chynllunio ymlaen yn hyderus.

Mae Meleri yn gweithio i Bartneriaeth Ogwen; mae ganddynt gytundeb lefel gwasanaeth gan gynghorau cymuned lleol ac incwm rhent sy’n sail i’w holl waith ac yn darparu cyllid parhaol ar gyfer eu costau craidd.

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


10:40 dydd Sadwrn - Neuadd - Aelodau yn unig

Uned Ymgyrchu Cenedlaethol

Hyfforddiant Treeware

Treeware: Bas data Plaid Cymru o bob etholwr yng Nghymru. Conglfaen hanfodol unrhyw ymgyrch etholiadol sydd o ddifri. Dewch i weld sut y gall drawsnewid eich ymgyrch.

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


13:00 dydd Sadwrn - Rhuddlan

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Cadw addysg yn agored mewn argyfwng

Ers cychwyn y pandemig COVID-19, mae mwy a mwy o bobl ledled Cymru wedi troi at addysg fel ffordd o wella eu lles, gwella sgiliau neu ddysgu sgiliau newydd er mwyn sicrhau gwaith.

Nawr rydym yn wynebu argyfwng newydd wrth i gostau byw godi i’r entrychion. Bydd cadw addysg yn agored drwy gefnogi pobl i dderbyn addysg i oedolion yn parhau i fod yn hanfodol i wydnwch ein cymunedau a iechyd ein heconomi.

Ymunwch â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, gyda Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, NUS Cymru a Sioned Williams AS yng Nghynhadledd Flynyddol Plaid Cymru i drafod beth sy’n rhaid ei wneud er mwyn cadw drysau addysg yn agored i bawb, o bob cefndir ac amgylchiadau.

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


13:00 dydd Sadwrn - Conwy

Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd

Dyfodol Cyllidol Cymru

Yn y sesiwn hon, bydd tîm Dadansoddi Cyllid Cymru, Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno eu dadansoddiad diweddaraf o sefyllfa economaidd Cymru, yn amlinellu’r rhagolygon pryderus i aelwydydd a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn archwilio’r goblygiadau i ddadleuon cyfansoddiadol cyfoes.

Pa mor debygol y caiff problemau economaidd, cyllidol a chymdeithasol Cymru eu lleddfu o dan drefniadau cyfansoddiadol presennol? Beth fyddai heriau cyllidol a chyfleoedd economaidd annibyniaeth?

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


13:00 dydd Sadwrn - Neuadd - Aelodau yn unig

Cymdeithas Cynghorwyr

Ymgyrch Etholiadol Llywodraeth Leol

Efallai eich bod chi’n meddwl bod popeth drosodd, ond dim ond megis dechrau ydyn ni! Sesiwn hyfforddi i gynghorwyr etholedig ar sut i gadw’u seddi.

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


16:45 dydd Sadwrn - Rhuddlan

Plaid Ifanc

Dy Gyngor, Dy Lais

Gellir dadlau bod gan awdurdodau lleol ddylanwad fwy ar ein bywydau dydd i ddydd na’r llywodraeth genedlaethol, ond mae llawer o bobl ifanc yn anymwybodol o’u pwysigrwydd.

Ymunwch â ni am banel trafodaeth wedi’i gadeirio gan Joshua McCarthy ynghyd â Heledd Fychan AS, Cyng. Aaron Wynne ac eraill.

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]


16:45 dydd Sadwrn - Conwy - Aelodau yn unig

Uned Ymgyrchu Cenedlaethol

Hyfforddiant Cofrestr Etholwyr wedi'i Gofnodi

Mae gwybod pwy sy’n pleidleisio yn hanfodol i ymgyrch etholiadol. Bydd y sesiwn hon yn cysidro pwysigrwydd mewnbynnu data’r gofrestr etholwyr wedi’i marcio, a pha mor rhwydd yw’r broses.

[i'r brig] [Amserlen dydd Sadwrn]