Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiwygio cyflogau, telerau ac amodau er mwyn sicrhau triniaeth gyfartal i staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Mewn dadl a drefnwyd ar gyfer y prynhawn yma (dydd Mercher 17 Mawrth) yn y Senedd, bydd Plaid Cymru yn galw am i wahaniaethau ddod i ben, ac i weithwyr gofal gael isafswm gwarantedig o £10 yr awr.

O dan y trefniadau presennol, telir o leiaf y cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr iechyd yn y GIG. Nid yw hynny’n wir yn y sector gofal.

Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, gyda gofal cymdeithasol am ddim ar y pwynt angen, gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu rhoi ar yr un graddfeydd cyflog.

Yn nadl y Senedd heddiw, bydd Plaid Cymru yn galw ar "Lywodraeth nesaf Cymru" i gyflwyno isafswm gwarantedig o £10 yr awr i bob gweithiwr gofal.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n dileu’r gofyniad hwn ac yn ei ddisodli gan sôn am fforwm newydd - y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol - y mae’n dweud ei fod yn "edrych ar sut i wella telerau ac amodau yn y sector."

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae’r cyhoedd wedi cymeradwyo ein gofalwyr, nawr mae’n bryd i’r llywodraeth gamu i fyny a rhoi gwerth i’r clapio.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i’n gofalwyr - mewn llywodraeth, byddwn yn creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol gwirioneddol ddi-dor, a fydd yn rhoi’r parch y maent yn ei haeddu i weithwyr gofal, gan eu rhoi ar yr un telerau ac amodau a graddfeydd cyflog â gweithwyr iechyd.

“Os yw’r pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru o ddifrif am hyn, byddant yn cael cyfle i gefnogi cynnig Plaid Cymru yn y Senedd heddiw, ac ymrwymo i ddarparu setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal.

“I’n gofalwyr, sydd wedi rhoi cymaint i mewn i ofalu amdanom yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf yn ystod ein hoes, dyma’r lleiaf y gall llywodraeth ei wneud drostynt.”