7 rheswm i bleidleisio dros Blaid Cymru yn etholiadau'r Cyngor 2022
Diolch am ystyried pleidleisio dros Blaid Cymru. A ydych am wybod mwy amdanom, yr hyn yr ydym yn sefyll drosto a’r hyn a gewch pan fyddwch yn pleidleisio drosom? Dyma ychydig o bwyntiau...
Drwy bleidleisio dros Blaid Cymru, cewch hyrwyddwr cymunedol lleol ymroddedig
Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn rhan annatod o’u cymunedau. Drwy gydol yr argyfyngau niferus rydym wedi’u hwynebu ac yn parhau i’w hwynebu, mae Cynghorwyr Plaid wedi bod ar y rheng flaen, gan helpu’r rhai mewn angen. P’un a yw’n helpu trigolion yn ystod llifogydd, yn sefydlu banciau bwyd a pharseli bwyd yn ystod y pandemig, neu drwy weithio gydag unigolion yn ystod yr argyfwng costau byw - mae Cynghorwyr Plaid yno i helpu’r rhai sydd mewn angen.
Yr hyn rydym yn ei wneud i helpu i amddiffyn pobl gyda chostau byw
Yn y cyfnod hynod anodd hwn, mae Plaid Cymru yn edrych mas am bawb yng Nghymru.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth i filiau cartref pobl lle bo hynny’n bosibl.
Gweler mwy am ein Cytundeb Cydweithio yma.
Prydau Ysgol am Ddim i bob ysgol gynradd ac uwchradd
Credwn y dylai fod gan bob plentyn yr hawl i gael pryd iach, sy’n llenwi’r bol - prydau ysgol sy’n eu gadael yn rhydd i ganolbwyntio ar ddysgu a thyfu’n iach. Fe fydd yn cael gwared ar stigma a dyled ysgol ginio.
Rydym wedi llwyddo i sicrhau hyn ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, ond rydym am fynd ymhellach. I fod yn hawl wirioneddol i bob plentyn, rydym am ymestyn hyn i bob ysgol uwchradd. Mae holl Gynghorwyr y Blaid wedi ymrwymo i’r syniad hon.
Byddwn yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai
Dylai fod gan bawb yr hawl i gartref sydd yn agos i’w teulu, ac i fyw a gweithio yn y cymuned lle’u magwyd.
Mae Cynghorwyr Plaid eisiau adeiladu tai cyngor mwy modern a delio â’r argyfwng ail gartrefi sy’n gwagio cymunedau.
Gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed
Mae ehangu gofal plant am ddim i BOB plentyn dwyflwydd oed yn rhoi’r dechrau gorau i addysg i bob plentyn ac yn rhoi’r hyblygrwydd sydd ei angen ar deuluoedd ifanc. Rydym wedi ymrwymo i hyn.
Cymryd rheolaeth o’n hegni
Mae’r argyfwng costau byw wedi tynnu sylw at yr angen am chwyldro ynni gwyrdd. Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am hyn ers amser maith, a bydd cynghorau dan arweiniad y Blaid yn arwain y ffordd ar ynni gwyrdd adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus, yn rhoi pwerau i’n cymunedau am bris teg ac yn cael Cymru i Allyriadau Carbon Sero-Net erbyn 2030.
Rydym yn cefnogi’r economi leol
Mae cynghorau dan arweiniad y Blaid wedi ymrwymo i hyrwyddo a buddsoddi mewn economïau lleol. Cynyddodd Cyngor Gwynedd wariant lleol 39%, o £56m i £78m dros bedair blynedd. Mae hynny’n arian sy’n mynd yn ôl mewn i’r economi leol - yn cyflogi pobl leol ac yn cefnogi busnesau lleol.
Diwrnod yr etholiad yw’r 5ed o Fai.
Os oes gennych bleidlais bost, dychwelwch hi cyn gynted â phosib neu ewch â hi i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
O... a phleidleisiwch Blaid Cymru!