Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno gwelliant i’r Mesur Mewnfudo fydd yn gorfodi Llywodraeth Prydain i ystyried rhoi’r dewis o ddinasyddiaeth Brydeinig i staff iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn dod o’r DG.

Cyn Ail Ddarlleniad y Mesur yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (18 Mai), cadarnhaodd Hywel Williams AS fod y blaid wedi datblygu gwelliant fyddai’n cael ei gyflwyno os aiff y Mesur trwy ei bleidlais gyntaf ar y ddeddfwriaeth arfaethedig a gynhelir heno.

Yn ei araith yn ystod y ddadl ar y Mesur, bydd Mr Williams yn tynnu sylw at y ffaith fod Llywodraeth Prydain wedi rhoi dinasyddiaeth Brydeinig i’r Gurkhas am eu cyfraniad i amddiffyn y DG. Bydd yn galw am weithredu cynllun tebyg i’r rhai ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y Coronafeirws yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Ganwyd tua 25 y cant o staff ysbytai yn y DG dramor, yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (SYG).

Yn ystod y ddadl, bydd Hywel Williams AS yn dweud:

“Yn awr yn fwy nag erioed, rydym wedi gweld y gwerth a roddir i gymunedau ledled y DG gan bobl sydd wedi dewis ymgartrefu yma.

“Y Mesur hwn a Swyddfa Gartref Priti Patel a geisiodd godi bwganod am lawer o’r rhai sy’n brwydro yn erbyn y feirws fel ‘gweithiwr sgiliau isel’, fel y staff gofal sy’n edrych ar ôl y bobl fwyaf bregus ac yn peryglu eu hunain.

"Rhoddodd Llywodraeth y DG hawliau dinasyddiaeth Brydeinig i’r Gurkhas am eu medr, eu dewrder a’u hurddas yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf anodd ein hanes. Dyw’r pandemig Coronafeirws ddim yn wahanol.

“Mae’r Mesur hwn erbyn hyn yn edrych fel petai’n dod o oes arall, a does dim modd iddo gael ei basio fel y saif. Mae’n gychwyn system fewnfudo fwy adweithiol ar yr union adeg y mae mwy o bobl nag erioed yn rhoi gwerth ar gyfraniad mewnfudwyr i’n cymdeithas.

“Dyma’r amser i ni yng Nghymru fynnu’r pwerau i greu system fewnfudo decach i Gymru, wedi ei theilwrio i anghenion ein cymunedau a’n heconomi.

“Fel cam cyntaf, bydd Plaid Cymru yn brwydro’n galed i sicrhau y caiff y bobl hynny sydd wedi rhoi gwasanaeth mor ddewr i’n cymdeithas trwy frwydro’r feirws hwn y dewis i aros - a chael dinasyddiaeth Brydeinig - os mynnant hynny.”