Rhowch flaenoriaeth i symud y sawl sy’n cam-drin yn y cartref er mwyn lleihau pwysau ar lochesi - a chadw goroeswyr yn ddiogel

Pan fydd yr heddlu’n cael eu galw i ddigwyddiad o gam-drin yn y cartref, y troseddwr honedig yn hytrach na’r dioddefwr a’r plant ddylai gael ei symud, meddai’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Leanne Wood.

 

Yr oedd Gweinidog Cyfiawnder cysgodol Plaid Cymru Leanne Wood AC yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a gwasanaethau arbenigol camdriniaeth yn y cartref i helpu i ddarganfod a chyllido canolfannau lletya addas i oroeswyr camdriniaeth yn y cartref a’r rhai sydd yn cam-drin yn ystod y pandemig Covid-19.

Dywedodd Ms Wood y dylid rhoi blaenoriaeth i symud y troseddwr honedig o’r cartref er mwyn lleihau pwysau ar lochesi a chadw goroeswyr yn ddiogel.

Mae Rhybuddion Atal Trais Domestig (RhATD) a Gorchmynion Atal Trais Domestig (GATD) ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio’n eang gan Heddlu Gogledd Cymru i symud troseddwyr ymaith am 28 diwrnod.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Arfon Jones fod RhATD a GATD yn effeithiol o ran darparu “amddiffyniad tymor byr” i oroeswyr a byddai’n rhoi “seibiant dros dro” oddi wrth y sawl sy’n cam-drin ac amser i fynd at wasanaethau cefnogi heb ymyrraeth.

Dywedodd Mr Jones y byddai hyn yn ddelfrydol dan yr amgylchiadau presennol.

Ychwanegodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Wasanaethau Cyhoeddus Delyth Jewell AC y gallai Llywodraeth Cymru gryfhau eu hymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus sydd â’r nod o annog cymdogion i leisio pryderon neu wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod lle gallant ddod o hyd i gefnogaeth.

Awgrymodd Ms Jewell y gallai’r sawl sy’n dioddef camdriniaeth ddefnyddio “gair diogel” wrth siopa i ofyn yn ddirgel am help – dyma arferiad sydd ar waith yn Ffrainc a Sbaen.

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder cysgodol Plaid Cymru Leanne Wood AC,

“Mae’r cloi i lawr oherwydd Coronafeirws yn golygu y gorfodir y sawl sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref i dreulio mwy o amser gyda’r rhai sy’n eu camdrin, sy’n cynyddu’r bygythiad o drais a chamdriniaeth a chyfyngu ar eu rhyddid.

“Rydym eisoes yn clywed adroddiadau am nifer o farwolaethau oherwydd camdriniaeth domestig ers cychwyn y cloi i lawr a thystiolaeth o wledydd eraill yn dangos fod digwyddiadau yn cynyddu yn ystod cyfyngiadau. Mae’n epidemig y tu mewn i bandemig.

“Gallwn ddysgu gwersi o wledydd eraill megis yr Eidal a Ffrainc lle symudir y troseddwr honedig yn hytrach na’r sawl sy’n dioddef y gamdriniaeth pan elwir yr heddlu i ddigwyddiad o gamdriniaeth domestig.

“Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a gwasanaethau arbenigol camdriniaeth yn y cartref i helpu i ddarganfod a chyllido canolfannau lletya addas i oroeswyr camdriniaeth yn y cartref a’r rhai sydd yn camdrin yn ystod y pandemig Covid-19.

“Dyna lle dylid rhoi blaenoriaeth er mwyn lleihau pwysau ar lochesi a chadw goroeswyr yn ddiogel.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones,

“Y cartref yw’r lle mwyaf diogel i ni i gyd i fod ar hyn o bryd, ond gwaetha’r modd, dyw hynny ddim yn wir i’r sawl sy’n dioddef camdriniaeth domestig.

“Ond mae camdriniaeth domestig yn dal yn drosedd. Rwyf eisiau sicrhau unrhyw un sy’n teimlo mewn perygl neu sydd yn dioddef ar hyn o bryd fod yr heddlu a’r amryfal wasanaethau cefnogi sydd ar gael yn barod i’w helpu them.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru ar hyn o bryd yn defnyddio RhATD a GATD i symud y sawl yr amheuir o gamdriniaeth o’r cartref am 28 diwrnod.

“Mae’r rhain yn effeithiol i roi amddiffyniad yn y tymor byr i oroeswyr a rhoi seibiant iddynt trwy ymbellhau oddi wrth y camdriniwr a rhoi cyfle iddynt gyfeirio at wasanaethau cefnogi heb ymyrraeth – sy’n ddelfrydol dan yr amgylchiadau yr ydym yn byw ynddynt ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Delyth Jewell AC a’r gweinidog gwasanaethau cyhoeddus cysgodol,

“Mae’n hawdd anghofio nad yw’r cartref yn wastad yn noddfa nac yn lloches i lawer o bobl, ac y mae llawer mwy y gallwn wneud i gefnogi pobl sy’n dioddef camdriniaeth domestig.

“Gallai Llywodraeth Cymru gryfhau eu hymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus trwy gyfryngau darlledu a phrint yn ogystal â’r cyfryngau cymdeithasol, gyda’r nod o annog cymdogion i leisio pryderon a pheidio â sefyll ar y cyrion heb wneud dim.

“Dylai unrhyw negeseuon cyhoeddus ofalu fod pobl yn gwybod lle i fynd am help a chefnogaeth.

“Gallai’r rhai sy’n dioddef trais yn y cartref hefyd ddefnyddio ‘gair diogel’ wrth siopa fel y gallant ofyn am help yn ddirgel - fel sy’n digwydd yn Ffrainc a Sbaen. Yn Sbaen, mae’r llywodraeth wedi dweud wrth fenywod na chânt eu dirwyo os byddant yn gadael y cartref i roi adroddiad am gamdriniaeth. Mae’r Eidal wedi lansio ap fydd yn caniatáu i fenywod ofyn am help gan yr heddlu heb orfod gwneud galwad ffôn.

“Mae yna enghreifftiau gwych o arfer da y gallwn ddysgu gan wledydd eraill yma yng Nghymru, ac i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn y cyfnod anodd hwn.