Plaid Cymru yn dweud y bydd datrysiad llygredd amaethyddol Llywodraeth Cymru yn achosi mwy o niwed

Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru i reoli llygredd amaethyddol yn afonydd a nentydd Cymru wedi cael eu herio gan Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru fel yr “ateb anghywir i'r cwestiwn cywir.”

Mae Mr Gruffydd, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyflwyno cynnig i'r Senedd y dylid dirymu'r rheoliadau, gyda'r bleidlais derfynol i'w chynnal ddydd Mercher yma (3 Mawrth 2021).

Mewn llythyr agored at ei Gyd-Aelodau yn y Senedd, mae Mr Gruffydd yn amlinellu'r rhesymau pam y dylid dirymu'r rheoliadau dadleuol ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ).

Mae'r rheoliadau hyn, medd Mr Gruffydd, yn “anghymesur, byddan nhw'n cael canlyniadau anfwriadol i'r amgylchedd, a byddan nhw'n tanseilio hyfywedd llawer o ffermydd Cymru.”

Un enghraifft o sut y gallai'r rheoliadau achosi mwy o niwed yw'r dull ffermio-drwy-galendr. Mae Mr Gruffydd yn nodi bod defnyddio dyddiadau calendr yn hytrach na'r tywydd i bennu pryd y gellir gwasgaru slyri yn “gynnig hurt”. Bydd adegau yn ystod y cyfnod agored lle gallai taenu slyri arwain at ganlyniadau difrifol i'r amgylchedd. Bydd ffermwyr ledled Cymru yn gwagio eu storfeydd llawn ar yr un pryd ar ddiwedd cyfnodau caeedig. Bydd hyn yn achosi cynnydd enfawr mewn lefelau nitradau, gan beryglu llygredd mewn ardaloedd nad ydynt wedi cael problemau blaenorol.

Mae Mr Gruffydd yn ofni y bydd yr awydd i “ruthro” y rheoliadau hyn drwodd yn nyddiau olaf tymor presennol y Senedd yn achosi “canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol anfwriadol sylweddol”.    

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llŷr Gruffydd AS,

“Mae Plaid Cymru yn cefnogi rheoleiddio ar lygredd afonydd. Y broblem yw mai'r rheoliadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yw'r ateb anghywir i'r cwestiwn cywir.

“Er gwaethaf addewid toredig y Gweinidog na fyddai'r rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno yng nghanol pandemig, maen nhw'n anghymesur. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi argymell y dylid dynodi 8% o Gymru yn Barthau Perygl Nitradau. Mae'n hynod siomedig bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi anwybyddu eu cyngor drwy gyflwyno dull cyffredinol sy'n cwmpasu 100% o'r wlad.

“Ni ellir gorbwysleisio yr effaith andwyol ar yr amgylchedd. Bydd y dull ffermio-drwy-galendr yn gweld ffermwyr yn clirio eu storfeydd slyri yn union cyn ac ar ôl y cyfnodau caeedig. Mae hyn yn mynd i greu problemau llygredd newydd hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad oes problemau ar hyn o bryd.

“Bydd y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i fodloni'r rheoliadau hyn yn gorfodi llawer o ffermydd i beidio a ffermio gwartheg. Byddai colli gwartheg o'r ucheldiroedd yn tanseilio'r sustemau pori dan reolaeth sydd wedi cyfrannu cymaint at wella cynefinoedd ac adfer bioamrywiaeth.

“Rwy'n gwrthwynebu'r rheoliadau hyn nid am nad oes problem ansawdd dŵr mewn rhai rhannau o Gymru yn hytrach, rheoliadau anymarferol yw'r rhain. Byddant yn achosi canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol anfwriadol sylweddol, ac ni ddylid eu rhuthro drwodd yn nyddiau olaf y Senedd hon.”