Y Celfyddydau yng Nghymru “yn diflannu dros nos” os na ddaw cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru mae Plaid Cymru yn rhybuddio
Gweinidog Cysgodol dros Ddiwylliant Plaid Cymru Siân Gwenllian AS yn galw am eglurder dros y cymorth ariannol mae’r diwydiant yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru – bron i BYTHEFNOS ar ôl i’r Prif Weinidog ddweud fod cyhoeddiad yn ‘agos iawn’
Bydd y Celfyddydau yng Nghymru “yn diflannu dros nos” os na ddaw cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn fuan, mae Plaid Cymru wedi rhybuddio.
Rhoddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford “sicrwydd” bron pythefnos yn ôl ar 17 Gorffennaf, pan ddywedodd ei fod yn ‘agos iawn’ at wneud cyhoeddiad ar ‘gyfran gyntaf y cyllid’ o’r pecyn gymorth £59m cafod ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar 5 Gorffennaf – dros dair wythnos yn ôl.
Dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros Ddiwylliant Siân Gwenllian AS fod yr oedi yn annerbyniol gan nodi fod eglurder yn angenrheidiol ar gyfer y sector sydd “ar eu gliniau” erbyn hyn.
Dywedodd Ms Gwenllian fod bywoliaeth 60,000 o bobl sydd yn cael eu cyflogi gan y diwydiant mewn perygl.
Mae Ms Gwenllian wedi galw am eglurhad ar gyfer y diwydiant nifer o weithiau gan gynnwys ysgrifennu llythyr ar y cyd gyda Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn galw am dair ymyrriad benodol – gan gynnwys galw ar y Llywodraeth i gyd-gweithio gyda’r sector ar gynllun ar gyfer y Celfyddydau. Cafodd y llythyr ei gefnogi yn gyhoeddus gan nifer o bobl o fewn y diwydiant, gan gynnwys Charlotte Church a Catrin Finch, a’i gefnogi gan gannoedd fwy ar lein.
Dwedodd Gweinidog Cysgodol Diwylliant Plaid Cymru, AS Sian Gwenllian,
“Er y sicrwydd a ddarparwyd gan y Prif Weinidog bythefnos yn ol (17 Gorffennaf) ei fod e’n ‘agos iawn at wneud cyhoeddiad’ am ‘gyfran gyntaf y cyllid’ o’r pecyn Cymorth £59m ar gyfer y Celfyddydau, mae’r sector dal i aros am newyddion ac eglurhad.
“Mae’r sector gelf ar ei gliniau ac angen eglurhad gan Lywodraeth Cymru yn syth. Mae galwadau Plaid am eglurder wedi’u hanwybyddu gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant gyda’r oedi yn awgrymu un o ddau bosibiliad – ddiffygion difrifol gan Lywodraeth neu amharodrwydd i gefnogi’r sector celfyddydau yng Nghymru.
“Mae’r sector creadigol a chelfyddydau yn rhan bwysig o’r economi Cymraeg, gan gyflogi bron i 60,000 o bobl, a gall chwarae rhan bwysig mewn cefnogi lles y cyhoedd gan helpu ni gyda ymdopi gyda cyfyngiadau Cofid-19. Ond os nad yw cymorth ariannol yn cael ei gynnig yn fuan, bydd rhannau o’r diwydiant yn diflannu dros nos - gan gymryd blynyddoedd i adfer. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd y rhybudd yma o ddifri.”