Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod gan bob plentyn hawl i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hyn.
Byddwn yn cynyddu cyfran a nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg, fel rhan ganolog o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg o leiaf erbyn 2050 – gan sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn gallu manteisio ar adnoddau digonol.
Gan wneud defnydd llawn o’r pwerau yn Neddf y Gymraeg ac Addysg, byddwn yn:
- Cyflwyno targed o gael o leiaf 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
- Gosod targedau lleol i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn tyfu’n gyson ym mhob ysgol, gan symud ysgolion yn raddol ar hyd y continwwm ieithyddol.
- Ymyrryd drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu ac, os oes angen, cymryd camau unioni os nad yw targedau addysg cyfrwng Cymraeg yn cael eu cyrraedd.
- Sicrhau bod Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru yn cynnwys hyfforddiant Cymraeg gorfodol, gyda’r nod hirdymor bod pob athro yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyflwyno cynllun ar gyfer gweithlu addysg Gymraeg, datblygu cyfleoedd sabothol newydd, a darparu cymhellion i athrawon hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn hefyd yn gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg drwy:
- Adolygu’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cael mynediad i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
- Cryfhau’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys gwell hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu addysg.