Y Gymraeg yn ein gwasanaethau iechyd a gofal

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gwella darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu’n llawn, a byddwn yn gweithio i adeiladu ar gynllun gweithredu Mwy na Geiriau – er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys gwasanaethau digidol a theleiechyd.

Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i wella mynediad at ofal sylfaenol, gwasanaethau niwroamrywiaeth, therapi iaith a lleferydd, a chymorth iechyd meddwl – gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol – drwy gyfrwng y Gymraeg.


Yr Iaith Gymraeg: darllen mwy