Byddwn yn cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg drwy weithio i ymestyn Safonau’r Gymraeg i gyrff ac asiantaethau Llywodraeth y DU sy’n gweithredu yng Nghymru, ac i’r sector preifat – gan gynnwys cyfathrebiadau, cyfleustodau, banciau, meysydd parcio, ac archfarchnadoedd.
Byddwn hefyd yn cryfhau Safonau’r Gymraeg ar gyfer cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau, gan sicrhau eu bod yn gwneud mwy na dim ond cydymffurfio er mwyn hybu twf y Gymraeg, cynyddu nifer y siaradwyr, ac ehangu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd ar hyd a lled Cymru.