Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach ac uwch – gan gydnabod yn llawn bwysigrwydd addysg trydedd lefel o ran rhoi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn fedrus, yn broffesiynol ac yn dechnegol.
Byddwn yn:
- Buddsoddi i gefnogi a datblygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu dilyn llwybrau trydedd lefel – gan gynnwys prentisiaethau – drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Gweithio gyda darparwyr trydedd lefel i gynyddu cyfran y cyllid sy'n cael ei ddarparu ar gyfer addysg a hyfforddiant Cymraeg, gan roi sylw penodol i brentisiaethau.
- Diogelu’r Gymraeg fel pwnc trydedd lefel, gan weithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Medr i gynyddu nifer y cyfleoedd i astudio’r Gymraeg ar lefel Safon Uwch a’r tu hwnt.
Fel rhan o’n hadolygiad cynhwysfawr a thrawsbleidiol ehangach o strwythur a chyllid addysg uwch yng Nghymru, byddwn yn edrych ar opsiynau i gynyddu’r ddarpariaeth cyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru, gan gymryd arweiniad a thystiolaeth gan bartneriaid allweddol.