Trochi yn y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd cynnar

Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod hollbwysig ym mywyd plentyn i gaffael iaith, boed hynny fel iaith gyntaf neu fel iaith ychwanegol.

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar hefyd yn borth hanfodol i addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg, sy’n cefnogi plant a theuluoedd ym mhob cwr o Gymru i gael mynediad at ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Drwy ein cynnig gofal plant newydd ac uchelgeisiol, bydd Plaid Cymru yn ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn sylweddol.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Creu lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd a helpu i sefydlu a thyfu lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol fel y Mudiad Meithrin.
  • Buddsoddi mewn rhaglenni i hybu a datblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gweithwyr gofal plant, gan gynnwys cynlluniau a chymhellion i gefnogi gweithwyr i ddysgu Cymraeg a chryfhau eu sgiliau iaith presennol.

Byddwn hefyd yn adolygu ac yn ehangu cynlluniau i annog a gwella trosglwyddiad iaith o fewn teuluoedd, gan gefnogi rhieni i ddewis defnyddio’r Gymraeg gyda babanod a phlant ifanc, a hyrwyddo mentrau sy’n cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y cartref drwy wasanaethau iechyd cyn ac ar ôl geni.


Yr Iaith Gymraeg: darllen mwy