Ochr yn ochr â datblygu’r Gymraeg drwy ein system addysg, byddwn yn ei hamddiffyn a’i hyrwyddo fel iaith fyw bob dydd, gan gryfhau ei sylfeini mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Gan weithredu ar argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, byddwn yn:
- Deddfu i gael mesurau diogelu newydd i ardaloedd o ddwysedd ieithyddol uwch, gan weithio gydag awdurdodau lleol i benderfynu sut a ble y dylid dynodi’r ardaloedd hyn.
- Cyflwyno pecyn pwrpasol o fesurau datblygu economaidd sy’n adeiladu ar Arfor ac sy’n cydnabod y cysylltiad cynhenid rhwng iaith, diwylliant a’r economi – o fewn fframwaith Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru.
- Ymateb i ail adroddiad y Comisiwn a’i argymhellion ynghylch ardaloedd sydd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg erbyn diwedd 2026, gan nodi cynllun clir sy’n dwyn ynghyd gamau gweithredu yn seiliedig ar holl argymhellion y Comisiwn.
Byddwn yn sicrhau bod y system gynllunio yn gwarchod y Gymraeg a diwylliant Cymru yn well, drwy weithio gydag awdurdodau lleol i weithredu argymhellion y Comisiwn ar gynllunio gwlad a thref. Byddwn hefyd yn deddfu i warchod enwau lleoedd Cymru.
Er mwyn i’r Gymraeg ffynnu, rhaid mynd ati i’w defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd – gartref, yn y gweithle ac yn y gymuned.
Byddwn yn parhau â chymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a’i defnydd. Byddwn hefyd yn buddsoddi ymhellach i ehangu adnoddau Cymraeg digidol a’r defnydd o’r Gymraeg mewn gofodau digidol; creu cyfleoedd newydd i blant a phobl ifanc gael mynediad at weithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth; a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd.