Mae’r argyfwng Covid-19 wedi taflu golau ar rai o’r problemau strwythurol sydd yn bodoli o fewn cymdeithas a’r system wleidyddol yng Nghymru. Mae’r gwaith o ailadeiladu fydd yn cymryd lle dros yr wythnosau, misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn gofyn i ni fod yn arloesol, beiddgar ac uchelgeisiol fel bod y genedl sy’n dod allan o’r argyfwng yn fwy cynaliadwy, teg a chyfiawn.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi cynnig nifer o syniadau, gan gynnwys cynllun i aildanio’r economi, ond rydym eisiau clywed gennych chi yn uniongyrchol am y newidiadau sydd angen digwydd. Os oes gennych syniadau, rhai bach neu mawr, dyma’ch cyfle i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a bod yn rhan o’n cynlluniau i adeiladu cenedl newydd.

Rydym yn croesawu unrhyw gyfraniadau, os yw hynny yn gynnig penodol, cynllun cynhwysfawr, neu os ydych eisiau tynnu ein sylw at broblem sy’n bodoli.

Mae croeso i chi gyfrannu eich syniadau yn y ffurflen isod, neu os hoffech yrru rhywbeth mwy sylweddol fel dogfen, os gwelwch yn dda e-bostiwch Cydlynydd Ôl-Goronafeirws Plaid Cymru: [email protected].

Allwn ni ddim addo y byddwn yn mabwysiadu pob cynnig, ond rydym yn ymrwymo i ystyried bod cyfraniad, felly gyrrwch eich syniadau!

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gosod deddfwriaeth i sicrhau bod pob un darn o lapio wedi ei chreu o ddefnydd a fedrir ei ailgylchu.

  • Cadwraeth natur

    Dylid rhoi'r sylw pennaf tuag at greu gwaith ym meysydd cadwraeth natur a chreu ynni o'r gwynt, haul a'r dyfroedd yng Nghymru. Nid oes angen cefnogi'r diwydiant niwclear oherwydd y perygl mae'n achosi i'r dyfodol. Dylid talu llai o sylw at ddiwydiannau twristiaeth gan mai gwaith israddol rhan amser sy' ar gael i'r gweithlu ac, mae gormod o bwysau ar ein bywyd ac adnoddau cefn gwlad, ein hiaith a'n diwylliant.