Plaid Cymru yn galw am eglurder ar wariant y gronfa dal i fyny mewn addysg

Mae Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian, wedi galw am eglurder ynglŷn â sut mae'r gronfa dal i fyny addysg wedi cael ei gwario, wrth i fanylion ddod i'r amlwg bod cynlluniau gwariant 'dal i fyny' Llywodraeth Lafur Cymru fesul disgybl bron yn hanner y rhai yn Lloegr.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 18 Chwefror), gwneir cymhariaeth rhwng ymrwymiad gwariant yr Adran Addysg yn Lloegr - tua £1.2bn neu £174 y disgybl – i'r £40m neu £88 y disgybl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw'n gyflym at y ffaith bod yr holl wariant yn gymharol fach o'i gymharu â maint yr her.

Fel rhan o addewid 'recriwtio, adfer a chodi safonau' Llywodraeth Cymru o £29m a wnaed ym mis Gorffennaf 2020, byddai 900 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio. Fodd bynnag, mewn un o Bwyllgorau'r Senedd ym mis Ionawr 2021, yn dilyn her gan Ms Gwenllian, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg fod y £29m “yn cael ei wario ar gyflogau pobl yn bennaf” ond gydag arian "wedi'i ddyrannu i recriwtio pobl."

Mae cynllun adfer addysgol manwl Plaid Cymru, yn cynnwys cynlluniau i gynyddu faint o ddysgu wyneb yn wyneb, yn ymrwymo i “Ymdrech Genedlaethol uchelgeisiol i recriwtio miloedd o staff ychwanegol.”

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

“Rydym wedi clywed na ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl ei yn cael ei ddweud, ond rydym mewn sefyllfa lle mae pob plentyn yng Nghymru wedi colli amser wyneb yn wyneb gwerthfawr gyda'u hathrawon, ac mae angen cynllun cadarn arnom i helpu i adfer y dysgu coll.

“Er bod ymdrechion wedi'u gwneud i gadw ysgolion ar agor am gyfnod mor hir â phosibl, mae'r adroddiad gan Sibieta a Cottell yn datgelu bod presenoldeb wedi bod yn is yng Nghymru o'i gymharu â chenhedloedd eraill y DU, ac mae hyn yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd difreintiedig.

“Mae cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru ar ei hôl hi o ran helpu disgyblion i ddal i fyny. Gwyddom fod plant o ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o allu manteisio ar ddysgu ar-lein, ac felly mae perygl bod y plant hyn wedi colli'r mwyaf o amser dysgu – anfantais ddwbl.

“Rhaid canolbwyntio ar allu darparu cymaint o ddysgu wyneb yn wyneb â phosibl, wedi'i dargedu at y plant hynny sydd wedi colli'r mwyaf o ddysgu, a dim ond drwy ymgyrch recriwtio enfawr y gellir cael hyn. Nid yw adfer addysg yn ymwneud â dal i fyny ar ei ben ei hun yn unig, rhaid iddo fod yn rhan o strategaeth ar gyfer addysg ar ôl Covid.

“Mae'r adroddiad gan Sibieta a Cottell yn ein hatgoffa o'r her sydd o'n blaenau, ond mae Llywodraeth Plaid Cymru yn barod ac wedi'i pharatoi'n llawn i allu ymgymryd â'r her honno.”