Cefnogi ein ffermwyr

Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd o ansawdd eithriadol. Ffermio yw asgwrn cefn ein heconomi wledig a chalon ein cymunedau cefn gwlad – mae’n cefnogi’r Gymraeg a’i diwylliant, ac yn gwarchod amgylchedd naturiol Cymru. Am y rhesymau hyn a mwy, mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi ein ffermwyr.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn diogelu dyfodol ffermydd teuluol Cymru mewn hinsawdd sy’n newid.

Byddwn yn parhau i gydweithio’n gryf â’r gymuned ffermio wrth i ni roi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar waith, a pharhau i’w ddatblygu a’i fireinio – gan helpu busnesau fferm ffyniannus a chynaliadwy i gynhyrchu bwyd, yn ogystal â chyflawni canlyniadau amgylcheddol allweddol yn raddol.

Byddwn yn:

  • Sefydlu cylch ariannu aml-flwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan roi sefydlogrwydd a sicrwydd tymor hir i ffermwyr. Y gyllideb flynyddol gyntaf fydd y llinell sylfaen ar gyfer hyn.
  • Comisiynu adolygiad annibynnol o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol yng Nghymru, gyda’r bwriad o symleiddio’r gofynion ar ffermydd a lleihau dyblygu a gwaith papur diangen.
  • Rhoi dull newydd ar waith sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac ar ganlyniadau, ac sy’n gymesur â’r risg, ar gyfer rheoli perygl nitradau ar draws dalgylchoedd – gan symud y tu hwnt i’r dull ‘ffermio yn ôl y calendr’ hen ffasiwn a helpu ffermwyr i fabwysiadu technolegau ac arferion newydd i leihau llygredd dŵr amaethyddol.
  • Cynnal safonau bioddiogelwch cadarn a defnyddio cyngor y Grŵp Cynghori Technegol TB i roi dull newydd o reoli TB Gwartheg ar waith – un sy’n cydnabod bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy’n galluogi dulliau rheoli sydd wedi’u dilysu’n wyddonol.
  • Diogelu tir amaethyddol o ansawdd uchel rhag cael ei golli i blanhigfeydd gwrthbwyso carbon corfforaethol ar raddfa fawr neu ddatblygiadau solar gormodol, gan ei gwneud yn haws i ffermwyr a chymunedau gwledig fuddsoddi yn eu prosiectau ynni adnewyddadwy eu hunain.

Bydd Plaid Cymru yn hybu olyniaeth a newydd-ddyfodiaid i fwyd a ffermio – gan weithio drwy Fanc Datblygu Cymru i helpu ffermwyr ifanc i ymuno â’r diwydiant. Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau i’r dreth etifeddiaeth yn tanseilio dyfodol ffermydd teuluol yng Nghymru.

Gan fynnu bod Llywodraeth Cymru’n cael ei chynnwys ym mhob penderfyniad am Gymru ac ar gyfer Cymru, byddwn yn ceisio sicrhau bod ffermio yng Nghymru yn cael ei ddiogelu mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, a pharhau i wella mynediad cynhyrchwyr yng Nghymru at farchnadoedd Ewropeaidd a marchnadoedd eraill.


Economi wledig gadarn sy’n seiliedig ar fwyd a ffermio: darllen mwy