Cytundeb newydd i gefn gwlad Cymru

Mae dros 80% o Gymru yn wledig. Mae pobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn aml yn wynebu costau uwch, ond yn ennill incwm is. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu bod yn dameidiog, ac yn aml dydy’r modelau ariannu presennol ddim yn ystyried costau ychwanegol eu darparu mewn cymunedau gwledig.

Drwy sicrhau bod sail statudol i brawfesur gwledig cadarn ar gyfer yr holl gynlluniau gwario a rhaglenni polisi, bydd Plaid Cymru yn sicrhau bod ymateb i anghenion penodol cymunedau gwledig yn rhan annatod o bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. A byddwn yn adolygu ac yn diwygio fformiwla ariannu llywodraeth leol er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu’n deg y realiti o wasanaethu poblogaethau gwledig yn bennaf.

Byddwn hefyd yn datblygu Strategaeth Datblygu Gwledig wedi’i theilwra i Gymru, gan ddefnyddio’r arferion rhyngwladol gorau i fynd i’r afael â thlodi a chreu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol newydd.

Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan gefnogi’r Gymraeg fel iaith fyw mewn ardaloedd gwledig.


Economi wledig gadarn sy’n seiliedig ar fwyd a ffermio: darllen mwy