Strategaeth fwyd genedlaethol

Mae Cymru’n cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel sydd gyda’r gorau yn y byd. Ond er hyn, dydy ein diogeledd bwyd ddim yn ddigon cadarn. Mae yna ormod o bobl yng Nghymru sy’n methu cael gafael ar fwyd maethlon a fforddiadwy. Hefyd rydyn ni’n or-ddibynnol ar fewnforion a dydyn ni ddim yn gweld gwerth llawn y bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yma.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud mwy i gynyddu diogeledd a llythrennedd bwyd, cwtogi a chryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, a defnyddio’r plât cyhoeddus i gefnogi a datblygu diwydiant bwyd a diod Cymru.

Fel rhan o Strategaeth Fwyd newydd gynhwysfawr i Gymru, byddwn yn:

  • Datblygu brand newydd, swyddogol ‘Gwnaed yng Nghymru’ sy’n rhoi gwybodaeth glir i ddefnyddwyr am darddle cynnyrch ac arbedion cost carbon drwy brynu’n lleol.
  • Gweithio gyda siopau mawr i sicrhau bod gan bob archfarchnad adran bwrpasol ar gyfer cynnyrch o Gymru.
  • Hyrwyddo a chefnogi hybiau a mentrau bwyd cymunedol sy’n gwella llythrennedd bwyd, a sicrhau bod bwyd iach, wedi’i gynhyrchu yn lleol ar gael yn ehangach a’i fod yn fwy fforddiadwy.
  • Gweithio’n strategol, gan gynnwys drwy ein Hasiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, i sbarduno arloesedd a datblygu busnesau ym maes bwyd a ffermio, pysgodfeydd a dyframaethu, a chynyddu prosesu bwyd sy’n ychwanegu gwerth yng Nghymru.
  • Targedu a chymell cynnydd graddol mewn cynhyrchiant garddwriaethol, gyda’r uchelgais y bydd 25% o’r llysiau sy’n cael eu gweini yn Ysgolion Cymru yn dod o Gymru erbyn 2030.
  • Defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi ein sector bwyd a diod yn well, gan gynyddu cyfran y bwyd sy’n cael ei gaffael yn gyhoeddus ac sy’n dod o Gymru o 23% i 50% o leiaf.
  • Cyflwyno agwedd ysgol gyfan at fwyd (gyda llythrennedd bwyd a choginio yn rhan greiddiol o’r cwricwlwm), system archwilio ar gyfer cinio ysgol, a hybu rhagoriaeth o ran arlwyo mewn ysgolion.

Economi wledig gadarn sy’n seiliedig ar fwyd a ffermio: darllen mwy