Helpu Pobl i Fyw Bywydau Hirach ac Iachach
Mae Covid-19 wedi taro cymunedau tlotach galetaf. Mae Plaid Cymru yn amcanu at wneud Cydraddoldeb Iechyd yn nod i sicrhau cenedl iachach a thecach, gyda chamau gweithredu i wella mynediad at ofal i bawb. Bydd ein hawdurdodau lleol a’n cynghorwyr yn:
- Annog cerdded a seiclo, gyda llwybrau a rhwydweithiau hygyrch
- Gwella hygyrchedd cyhoeddus i amwynderau fel parciau, a thrafnidiaeth gyhoeddus
- Buddsoddi mewn Gwasanaethau Ieuenctid a Chanolfannau Ieuenctid – gan sicrhau eu bod yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sy’n cynnig cyngor iechyd meddwl a chyngor ar iechyd rhywiol
- Sicrhau bod staff llywodraeth leol yn gallu cael gafael ar gyfleusterau gwasanaeth iechyd galwedigaethol, hamdden a chwaraeon – a gweithio gyda darparwyr busnes i weld sut y gellir ehangu’r mynediad hwn i weithwyr busnesau bach a chanolig
- Annog ysgolion i roi cyfle i blant ymarfer a dysgu yn yr awyr agored gymaint ag y bo modd, gan gyflawni o leiaf dwy awr o ymarfer corff bob wythnos
- Hyrwyddo a hwyluso rhagnodi cymdeithasol i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys ymarfer corff a gweithgareddau eraill