Cynrychiolaeth mewn Aelodau Etholedig a’r Gweithlu
Mae Plaid Cymru yn credu y dylai pawb gael hawliau a chyfleoedd cyfartal. Mae’r diffyg cynrychiolaeth o rai grwpiau mewn rolau a gweithluoedd etholedig yn dystiolaeth bod llawer o waith i’w wneud, a bod rhai grwpiau’n wynebu rhwystrau mewn cymdeithas.
Bydd Plaid Cymru yn gosod targedau heriol ar gyfer recriwtio yn y sector cyhoeddus, gan sicrhau bod pobl â nodweddion amrywiol yn cael eu cynrychioli.