Awdurdodaeth i Gymru

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn rhoi mesurau ar waith ar unwaith i greu awdurdodaeth ar wahân i Gymru, fel yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Byddwn ni’n pwyso i ddileu’r hawliau sydd gan San Steffan ar hyn o bryd o ran un awdurdodaeth Cymru a Lloegr, ac i gael cyllid digonol i ddilyn datganoli grymoedd cyfiawnder. Oherwydd toriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru’n cyfrannu bron i 40 y cant o’r gwariant Cyfiawnder yng Nghymru, er nad yw Cyfiawnder yn faes datganoledig, sy’n anghynaladwy.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn paratoi llwybr ar gyfer creu awdurdodaeth i Gymru, gan ddilyn argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Drwy wneud hynny, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cymryd cyfrifoldeb dros ddod â’r swyddogaethau cyfiawnder amrywiol ac anghydlynus sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd at ei gilydd.

Mae angen ein hawdurdodaeth ein hunain arnon ni i fynd i’r afael â’r rhaniad mewn cyfrifoldebau rhwng Llywodraeth San Steffan ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru ar gyfer polisïau cymdeithasol, iechyd, addysg a datblygu economaidd. Mae absenoldeb awdurdodaeth ar wahân yn arwain at anfanteision difrifol i Gymru, nad yw Lloegr, yr Alban, na Gogledd Iwerddon yn eu profi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Anallu i ddyrannu cyllid mewn modd cydlynus.
  • Cymhlethdod sy’n arwain at wastraffu adnoddau.
  • Diffyg polisïau cydlynus ac atebol.

Annibyniaeth: darllen mwy