Cydberthnasau rhwng gwledydd Prydain

Mae’n gyffredin i wledydd annibynnol fod yn rhan o strwythurau ehangach sy’n cynnwys gwledydd cyfagos, yn amrywio o gytundebau masnach rydd i undebau gwleidyddol llac fel yr Undeb Nordig rhwng gwledydd Sgandinafia, i gydffederasiynau fel Benelux (sef undeb rhwng Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg), ac yn wir, yr Undeb Ewropeaidd ei hun.

Mae’r cysylltiadau agos y mae Cymru a’r Alban wedi’u creu gyda Lloegr dros gyfnod o ganrifoedd yn gwneud yr achos dros gydberthynas agos, ond gyda newidiadau radical, rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn ynghyd â gweddill Ewrop.

Bydd y Comisiwn Cenedlaethol statudol, a fydd wedi’i sefydlu gan y Ddeddf Ymreolaeth, yn cael y dasg o gasglu safbwyntiau ar gysylltiadau a strwythurau arfaethedig rhwng cenhedloedd Prydain.

Annibyniaeth: darllen mwy