Democratiaeth amrywiol

Mae dros 20 mlynedd wedi bod ers i’r Cynulliad gynt gael ei gynnull yn 1999, ac mae bellach yn bryd mynd ati i bwyso a mesur, a sicrhau bod ein Senedd wedi’i grymuso i gyflawni’r swyddogaeth y mae’n anochel y bydd hi’n ei chwarae yn y degawdau i ddod, fel cartref democratiaeth Cymru a deddfwrfa gwladwriaeth annibynnol. Rydyn ni’n gwybod ers 2004 bod y Senedd yn rhy fach i gyflawni ei rôl o ddal llywodraeth y dydd i gyfrif. Er gwaetha’r datblygiadau mawr tuag at gydraddoldeb rhywedd yn nyddiau cynnar y Senedd, mae’n rhaid i ni nawr weithredu i sicrhau bod ein Senedd a’n democratiaeth ehangach yn adlewyrchu ein cenedl fodern yn ei holl amrywiaeth, ac yn adlewyrchu lleisiau a dyheadau dinasyddion Cymru.

Byddwn ni yn ystyried a ellir cryfhau annibyniaeth ac effeithiolrwydd peirianweithiau allweddol o gwmpas y ddeddfwrfa ymhellach, fel Bwrdd Taliadau, Swyddfa Ffioedd, a Chomisiynydd Safonau’r Senedd, sy’n cyflawni rôl allweddol yn ngweithrediad effeithiol ein democratiaeth ac yn darparu atebolrwydd a sicrwydd i’r cyhoedd.

Byddwn yn cefnogi ymdrechion i sicrhau bod Comisiwn y Senedd yn ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a safonau’r Gymraeg sy’n gweithredu ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnal yr egwyddor bwysig y dylai’r Comisiwn barhau i fod yn atebol i’r Senedd.

Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r defnydd o ‘Senedd’ fel enw swyddogol y ddeddfwrfa yn y ddwy iaith, ac yn ei normaleiddio, gan geisio cyfleoedd i ffurfioli mewn cyfraith yr hyn sydd bellach wedi dod yn arfer bob dydd.

Byddwn ni’n gweithredu fel Llywodraeth ar yr egwyddor nad oes gan neb fonopoli ar syniadau da, a byddwn ni’n ceisio sicrhau effeithiolrwydd sianeli i fwydo syniadau da i’r llywodraeth. Byddwn ni’n anelu i gefnogi cynigion deddfwriaethol posib gan Aelodau meinciau cefn y Senedd lle bo modd, ac yn anelu i weithredu’n gyflym ac yn bragmataidd mewn meysydd lle mae consensws gwleidyddol ynghylch cynigion deddfwriaethol.

Annibyniaeth: darllen mwy