Cyd-gynhyrchu gyda llywodraeth leol a chreu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru

Mae pandemig Covid-19 wedi dangos mai awdurdodau lleol yw adain fwyaf effeithiol y llywodraeth o ran darparu polisi, boed hynny ym maes iechyd y cyhoedd, addysg, neu ymyrraeth economaidd. Felly, byddwn ni’n ceisio cydberthynas gydweithredol newydd rhwng Llywodraeth Cymru a 22 awdurdod unedol Cymru ar sail cydgynhyrchu wrth greu a gweithredu polisi. Yn ein tymor cyntaf, ac wrth i ni fwrw ati gydag adfer ar ôl Covid, bydd y gydberthynas hon yn arbennig o bwysig ar gyfer gweithredu ein polisïau addysg, tai a chyflogaeth.

Byddwn ni’n creu Cyngor Llywodraeth Cymru, gan ddod ag arweinwyr ac uwch swyddogion awdurdodau at ei gilydd gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, i gydlynu gwaith ar y cyd rhwng llywodraeth ganolog a lleol. Bydd y cydberthnasau ar sail cydraddoldeb, gan greu safbwynt a rennir o raglen waith a chyflawni. Byddwn ni’n darparu buddsoddiad ychwanegol fel cymhelliant i gydweithio.

Byddwn ni’n creu rhwydwaith o Swyddfeydd Rhanbarthol y Llywodraeth, dan arweiniad Prif Swyddogion Rhanbarthol, a fydd yn gyfrifol am gydlynu’r gwaith o gyflawni ein strategaeth ofodol genedlaethol. Yn y Cymoedd ac yn Arfor, bydd y rôl hon yn cael ei goruchwylio gan ein hasiantaethau datblygu newydd ar gyfer y rhanbarthau hyn.

Fel rhan o’n hymagwedd gyfunol newydd, byddwn ni’n datblygu cynigion ac amserlen ar gyfer creu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru. Bydd gan y gwasanaeth hwn gyd-ddiwylliant a chyd-weledigaeth, gan alluogi rhannu a chyfnewid staff ac arbenigedd o fewn a rhwng pob sefydliad sector cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i rymoedd yn ymwneud â’r Gwasanaeth Sifil sydd wedi’u cadw’n ôl gan San Steffan gael eu trosglwyddo.

Bydd Academi Cymru y Llywodraeth yn dod yn Ysgol Genedlaethol ar gyfer Llywodraethu a Rheolaeth Gyhoeddus, yn gysylltiedig â sector prifysgolion Cymru. Bydd ganddi gyllideb uwch, Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys yr Ysgrifennydd Parhaol a Chadeirydd annibynnol. Bydd yn datblygu rhaglen ymchwil ryngwladol yn ymwneud â llywodraethu mewn gwledydd bach, ac yn mynd i gytundebau partneriaeth gydag ysgolion rheoli eraill fel Ysgol Llywodraethiant John F. Kennedy yn Harvard, ac École nationale d’administration (ENA) yn Ffrainc.

Annibyniaeth: darllen mwy