Cyfansoddiad Cymru
Bydd y Comisiwn Cenedlaethol yn cael y dasg o ddrafftio Cyfansoddiad ar gyfer Cymru annibynnol. Bydd gofyn iddo ymgynghori drwy Gynulliadau Dinasyddion, gan ystyried amrywiaeth a chynhwysiant.
Dylai Cyfansoddiad Cymru gynnwys:
- Datganiad bod sofraniaeth Cymru yn nwylo pobl Cymru.
- Disgrifiad a rôl sefydliadau llywodraethu Cymru, ynghyd â hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion.
- Y dylai’r hawliau a’r cyfrifoldebau hynny ymestyn y tu hwnt i’r gwleidyddol a’r cyfreithiol yn unig, i gynnwys hawliau a chyfrifoldebau cymdeithasol ac economaidd.
- Y dylai ddefnyddio arferion gorau o bob rhan o’r byd, yn enwedig cyfansoddiadau sydd wedi’u llunio ar gyfer cenhedloedd bach mewn sefyllfaoedd tebyg i Gymru.