Gwasanaeth Digidol Cymru

Byddwn ni’n creu Gwasanaeth Digidol Cymru, dan arweiniad y Prif Swyddog Digidol, i wasanaethu’r sector cyhoeddus cyfan. Ei rôl fydd troi Cymru’n wlad wedi’i galluogi’n ddigidol. Bydd:

  • Yn datblygu opsiynau ar gyfer seilwaith digidol Cymru gyfan, gan greu safonau tebyg, cofrestrfeydd a rennir, gwasanaethau y gellir eu rhyngweithredu, a meysydd eraill lle mae modd i Lywodraeth Cymru, asiantaethau cyhoeddus a llywodraeth leol gydweithio’n well.
  • Yn cynllunio gwasanaethau newydd ar draws y sector cyhoeddus, gan adeiladu llywodraeth newydd ar y cwmwl o’r gwaelod i fyny, a chanolbwyntio ar y gwasanaethau sydd eu hangen ar ddinasyddion, cymunedau, busnesau a sefydliadau eraill. Byddwn ni’n gosod targed i symud holl wasanaethau’r llywodraeth i’r cwmwl erbyn 2023.
  • Yn darparu un hunaniaeth ddigidol o ansawdd uchel i holl ddinasyddion Cymru gael mynediad at wasanaethau digidol, a fydd yn galluogi cael mynediad at wybodaeth gyfredol am gymhwysedd ar gyfer cymorth a chefnogaeth gan y Llywodraeth ym mhob maes. Erbyn 2022, bydd holl wybodaeth iechyd personol, boed hynny’n ofal sylfaenol, gofal eilaidd, gofal cymunedol neu ofal cymdeithasol, yn drosglwyddadwy ledled y system, gan alluogi cleifion a meddygon, gyda chaniatâd priodol o’r arferion gorau clinigol, gael mynediad at holl wybodaeth berthnasol claf.

Byddwn ni’n ymrwymo i Darged Gwariant Digidol – canran o wariant y Llywodraeth a gaiff ei gwario ar wasanaethau digidol drwy Adolygiad Gwario Digidol penodol.

Byddwn ni’n cyhoeddi rheol ‘mewngofnodi unwaith’ ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus – bod hynny’n ganolog, hyd braich, y GIG neu’n lleol – a bydd rhaid iddo fod ar waith erbyn diwedd 2022 ar yr hwyraf.

Byddwn ni’n sicrhau bod rheolau preifatrwydd cadarn ar waith i alluogi unigolion i reoli ac i ddiogelu eu preifatrwydd a deall sut mae data amdanyn nhw’n cael ei ddefnyddio.

Annibyniaeth: darllen mwy