Gweinyddiaeth y Dyfodol

Byddwn ni’n creu Gweinyddiaeth y Dyfodol newydd, a fydd yn gyfrifol am feysydd digidol, arloesedd, technoleg, a chynllunio hirdymor. Ein nod yw troi’r Llywodraeth yn bwerdy o arloesedd, a meithrin entrepreneuriaeth a chreadigrwydd o fewn y Llywodraeth.

Un o flaenoriaethau’r Weinyddiaeth newydd fydd gwneud penderfyniadau’r llywodraeth yn addas at y dyfodol, gan gynnwys penderfyniadau cyllideb, er mwyn iddynt gael eu hystyried yn erbyn yr effaith y byddan nhw’n ei chael ar genedlaethau’r dyfodol.

Bydd Tîm Arloesi yn elfen allweddol o’r adran newydd hon. Bydd y tîm hwn yn defnyddio ymagwedd arbrofol tuag at syniadau newydd – profion cyflym yn y byd go iawn lle bo’n bosib, gan ehangu’r defnydd o ddulliau trylwyr fel hap-dreialon dan reolaeth.

Byddwn ni’n ceisio gwreiddio’r defnydd o ystod eang o ddulliau, o waith cynllunio gyda phobl yn ganolog iddo, i economeg ymddygiadol a phenderfyniadau ar sail data, i wella polisi a’i ddull gweithredu. Byddwn ni’n cyflymu’r defnydd o ddysgu peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial mewn gwasanaethau a pholisi cyhoeddus, gan osod fframwaith moesegol clir i ddiogelu yn erbyn eu camddefnydd.

Bydd y Weinyddiaeth yn cynnal archwiliad o ba mor barod ydyn ni am risgiau sylweddol, gan sicrhau y caiff ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Annibyniaeth: darllen mwy