Anabledd
Byddwn yn mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith y DG er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb. Cadarnhawyd hyn gan y DG yn 2009, ond ni chafodd ei wneud yn gyfraith.
Fe wnawn hyn trwy weithio gyda Phwyllgor y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau, mudiadau pobl anabl, elusennau pobl anabl a phobl anabl eu hunain ledled y DG.
Bydd lleisiau pobl anabl wrth galon y polisi hwn er mwyn gwneud yn siwr fod pobl ag anableddau yn mwynhau bywydau beunyddiol llawn gydag urddas, eu hawliau dynol, a’r rhyddid sylfaenol rhag tlodi, eithrio cymdeithasol, camwahaniaethu ac esgeulustod.