Tegwch i Rieni

Ni ddylai’r un plentyn na theulu gael trafferth wrth ddelio â chost addysg. Ni ddylai’r un plentyn fod yn newynog yn yr ysgol. Diolch i Blaid Cymru yn unig y mae pob plentyn cynradd yng Nghymru yn derbyn prydau ysgol am ddim. Mae ein hymgyrchu hefyd wedi helpu i sicrhau ymestyn y Lwfans Cynnal Addysg. Byddwn yn parhau i ymgyrchu am brydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd ym mlynyddoedd 7 i 11, gan ofalu fod pob plentyn ysgol yn derbyn pryd maethlon bob dydd.

Mae cost y diwrnod ysgol hefyd yn effeithio ar ddysgwyr, ac y mae hyn yn cynnwys cludiant, gwisg ysgol a gweithgareddau allgyrsiol. Rhaid gostwng y costau hyn. Ni ddylai’r un dysgwr golli diwrnod o ysgol na cholli cyfleoedd oherwydd sefyllfa ariannol y teulu.

Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: darllen mwy