LHDT+

Mae Plaid Cymru’n ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod angen clywed a chadarnhau lleisiau a phrofiadau pobl LHDT+, a byddwn yn parhau i fod yn weithgar yn hyrwyddo hawliau LHDT+.

Ym maes addysg, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gadw cofrestr o ddigwyddiadau bwlio’n ymwneud â rhywioldeb, i weithredu lle bo angen, ac i gynnwys disgyblion mewn mentrau gwrthfwlio.

Byddwn yn sicrhau bod cydberthnasau a phrofiadau’r gymuned LHDT+ – gan gynnwys cymunedau traws, anneuaidd, ac anrhywiol – yn cael eu cynnwys yn elfen statudol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb y cwricwlwm newydd, ym mhob lleoliad ysgol, a bod hyfforddiant ar gael i athrawon.

Rydyn ni’n ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant LHDT+ drwy’r gymdeithas, gan gynnwys ym mhob gweithle.

Byddwn ni’n hyrwyddo cyfranogiad pobl LHDT+ mewn chwaraeon, fel rhan o ymdrechion ehangach tuag at ffyrdd iachach o fyw, ac yn gweithio gyda chlybiau a sefydliadau i fod yn draws-gynhwysol, ac i leihau ymddygiad homoffobaidd a rhywiaethol.

Byddwn ni’n parhau i frwydro dros gydraddoldeb i bobl draws. Ar ôl sicrhau cyllid rheolaidd i Glinig Hunaniaeth Rhywedd Cymru, bydd Plaid Cymru’n gweithio i wella’r ddarpariaeth ac i sicrhau mynediad prydlon at ei wasanaethau a’i gymorth.

Rydyn ni’n cefnogi diwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i gyflwyno proses syml, ddad-feddygol, sy’n seiliedig ar hunanddatgan ac sy’n unol ag arfer gorau yn rhyngwladol. Byddwn ni’n ceisio datganoli’r grymoedd sydd eu hangen i gyflwyno’r newid hwn, a byddwn ni’n amddiffyn hawliau pobl draws i barhau i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau yn unol a’u hunaniaeth rhywedd.

Byddwn ni’n parhau i gefnogi ymdrechion i gydnabod ac i amddiffyn pobl anrhywiol ac anneuaidd yn llawn rhag gwahaniaethu yn ôl y gyfraith.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy