Grymoedd cyfiawnder
Ar ôl ugain mlynedd o ddatganoli, mae’n anghyson nad oes gan y Senedd reolaeth lawn dros faterion cyfiawnder troseddol. Byddwn ni’n pwyso am ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yn llawn – yr heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf a’r llysoedd – fel y gallwn greu system gyfiawnder fwy teg a chyfartal.
Rydyn ni’n cefnogi creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru.
Drwy fod â rheolaeth dros gyfiawnder a heddlua yng Nghymru, bydd modd i ni ganolbwyntio ar yr agweddau unigryw hynny o gymdeithas Cymru sy’n arwain at gyfleoedd a heriau gwahanol i lunwyr polisi Cymru.
Mae anghydraddoldeb wedi’i adeiladu i galon ein system gyfiawnder. Ein nod fydd creu system cyfiawnder troseddol i Gymru sy’n canolbwyntio ar sefydlu mentrau cyfiawnder datrys problemau, sy’n mynd i wraidd troseddu ar gam cynnar, gan ganolbwyntio ar atal yn hytrach na dial.
Byddwn ni:
- Yn rhoi cyfrifoldeb i’r Cwnsler Cyffredinol ddod â’r swyddogaethau cyfiawnder amrywiol ac anghydlynus sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd at ei gilydd.
- Yn gosod llwybr ar gyfer cyflwyno argymhellion y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru, yn enwedig o ran creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.