Lleihau tlodi

Nid rhywbeth braf i’w gael yw mynd i’r afael ag anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau. Yn hytrach, mae’n gyfle i ailadeiladu mewn ffordd sy’n annog trosglwyddiad strwythurol dwfn i economi sy’n rhoi mwy o werth ar y gwaith rydyn ni’n gwybod ei fod yn hanfodol er mwyn ein cynnal. Byddwn ni’n mynd i’r afael â’r argyfyngau mewn polisïau gofal iechyd, cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, sydd wedi’u hamlygu yn ystod y pandemig hwn.

Byddwn ni’n pwyso am ddatganoli lles i ddatblygu system fwy tosturiol sy’n diogelu dinasyddion Cymru rhag effeithiau gwaethaf polisïau llywodraethau olynol y Deyrnas Unedig.

Yn hytrach na thrin symptomau anghydraddoldeb, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn ceisio mynd i’r afael â’u gwraidd. Byddwn ni’n mynd ati i geisio datganoli’r grymoedd trethu a lles sydd eu hangen at y diben hwn. Yn y cyfamser, byddwn ni’n dechrau creu’r blociau adeiladu ar gyfer Gwladwriaeth Les Cymru.

Byddwn ni’n gwneud trechu tlodi ac anghydraddoldeb yn genhadaeth genedlaethol graidd. Byddwn ni’n rhoi cyfrifoldeb i Gomisiwn Tlodi ac Anghydraddoldeb i ddatblygu cynllun i gyflawni ein nod, yn y tymor byrraf posib, o Gymru lle na fydd neb yn anghenus; lle bydd llai nag un ymhob deg o’r boblogaeth mewn tlodi ar unrhyw un adeg; a lle nad oes neb mewn tlodi am fwy na dwy flynedd.

Byddwn ni’n pasio Deddf Tlodi Plant newydd a fydd yn amlinellu cynllun i gael gwared â thlodi plant, gan osod targed o leihau nifer y plant sy’n profi tlodi cymharol i 10 y cant erbyn 2030.

Polisi Tâl Plant Plaid Cymru

Mae tlodi’n costio £3.6 biliwn o wariant cyhoeddus Cymru bob blwyddyn. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dweud wrthon ni bod un ymhob tri phlentyn yng Nghymru – tua 200,000 – yn byw mewn tlodi. Ym mis Mawrth 2018, adroddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y byddai diwygiadau treth a lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwthio 50,000 arall o blant Cymru i dlodi erbyn 2020-21. Mae hyn yn annerbyniol.

Dyna pam y bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn ymdrechu i wneud taliadau wedi’u targedu o £10 yr wythnos fesul plentyn i ddechrau, gan godi i £35 yr wythnos dros ein tymor cyntaf, i deuluoedd sy’n byw o dan y llinell dlodi.

Er mwyn gweithredu’r polisi hwn, byddwn yn ceisio datganoli pwerau lles gan San Steffan, ac yn ceisio cytundeb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar unwaith na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn adfachu unrhyw daliadau.

Os na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithredu ar y materion hyn, byddwn ni’n mynd ati ar unwaith i ganfod ffyrdd eraill o fynd i’r afael â thlodi plant o fewn y gyllideb rydyn ni wedi’i dyrannu.

Mae tlodi a pherfformiad economaidd gwael yn mynd law yn llaw. Dyna pam y bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud trechu tlodi ac adeiladu’r economi yn gyfrifoldeb cyfunol i un Gweinidog ac un adran.

Prif nod ein polisi economaidd fydd codi safonau byw. Bydd codi lefel y cyflogau cyfartalog gwirioneddol yn benodol yn nod polisi allweddol. Un o’r rhesymau pam fod 30 y cant o blant Cymru mewn tlodi (y ffigwr ar gyfer y boblogaeth gyfan yw 23 y cant) – yw gan fod eu rhieni’n fwy tebygol o fod yn ddiwaith neu mewn gwaith cyflog isel oherwydd cyfrifoldebau gofal plant. Mae gan ddwy ran o dair o’r plant sy’n byw mewn tlodi un neu ddau riant sy’n gweithio. Bydd galluogi menywod yn benodol i gael mynediad at gyflogaeth lai ansicr â chyflog gwell yn lleihau nifer y plant sydd mewn tlodi.

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

11,840 votes

Gyda Coronavirus yn ein hatal rhag cael y sgyrsiau wyneb yn wyneb arferol ar stepen y drws, rydym yn newid y ffordd rydym yn ymgyrchu yn yr etholiad hwn.

Byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ymgyrchu ar berswadio'r rhai nad ydynt eto wedi penderfynu sut i bleidleisio.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy