Uchelgais dros ein Plant

Mae cyllidebau ysgolion wedi cael eu hymestyn i’r eithaf, a thrwy sicrhau ariannu teg i Gymru, fe wnawn yn siwr fod gan ysgolion yr adnoddau i ddarparu’r addysg a’r gefnogaeth y mae ar ein dysgwyr eu hangen er mwyn iddynt allu gadael addysg gyda’r arfogaeth ar gyfer eu dyfodol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a buddsoddi mewn cefnogaeth i iechyd meddwl.

Yn hanfodol hefyd, mae’n golygu buddsoddi yn ein gweithlu, gan sicrhau bod athrawon a staff ategol yn cael eu cynnal a’u gwerthfawrogi er mwyn gwella recriwtio a chadw.

Dyma sut y byddwn yn gwneud hyn:

  • Adolygu’r holl gynlluniau bwrsariaeth sydd ar gael i gymell athrawon, er mwyn sicrhau eu bod yn denu ymgeiswyr ac yn helpu i lenwi bylchau recriwtio.
  • Gweithio gydag undebau’r athrawon i leihau biwrocratiaeth a baich gwaith.
  • Recriwtio a chadw 5000 o athrawon a staff ategol.
  • Cynnal adolygiad o Addysg Gychwynnol i Athrawon a Datblygu Proffesiynol Parhaus i weld pa mor berthnasol ydynt i ofynion y cwricwlwm newydd.
  • Penodi mwy o staff heb fod yn staff dysgu i ddelio ag anghenion disgyblion y tu hwnt i addysg.
  • Datblygu rôl fwy deniadol a ffurfiol i gymorthyddion dysgu nad oes ganddynt ar hyn o bryd lwybr gyrfa clir.

Cred Plaid Cymru hefyd y dylai pob dysgwr allu gadael yr ysgol gyda’r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl, yn ogystal ag o leiaf un iaith arall. Mae’r gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy’n cymryd Cymraeg fel lefel A, neu’n astudio iaith fodern, yn fater o bryder ac nid yw’n adlewyrchu’r ffaith fod Cymru yn genedl amlieithog ac amrywiol.

Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: darllen mwy