Niwroamrywiaeth
Mae Plaid Cymru’n credu y dylid ystyried niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb, gyda gofyn i wasanaethau cyhoeddus wneud addasiadau rhesymol wrth ddarparu gwasanaethau.
Byddwn ni’n pasio Deddf Awtistiaeth i Gymru, sy’n defnyddio agwedd ar sail hawliau ar gyfer pobl awtistig, neu y tybir bod ganddynt awtistiaeth ond nad ydynt wedi cael diagnosis eto.