Cyfiawnder Troseddol
Er bod newid trawsnewidiol yn anodd pan nad oes ganddon ni’r holl rymoedd angenrheidiol yng Nghymru, mae’n dal yn bosib gwneud ymyriadau ystyrlon. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru:
- Yn mynd i wraidd camddefnydd cyffuriau drwy raglenni arloesol fel Checkpoint Cymru.
- Yn sefydlu Ystafelloedd Defnyddio Cyffuriau i bobl sefydlogi eu defnydd o gyffuriau.
- Yn gwneud y broses adrodd am achosion o drais a cham-drin rhywiol mor syml â phosib, gan sicrhau bod ymchwiliad i bob digwyddiad a bod goroeswyr yn cael cynnig cefnogaeth gan Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol.
- Yn sicrhau bod gan bob dioddefwr a goroeswr fynediad at wasanaethau cwnsela wedi’u hariannu’n dda.
- Yn anelu i ddeall a thaclo troseddu cyllyll drwy weithio gyda chlybiau ieuenctid, gweithwyr ieuenctid, ysgolion a grwpiau tebyg i wella gwasanaethau ieuenctid, a sicrhau bod clwb ieuenctid ym mhob tref.
- Yn gweithio gyda chymunedau sy’n profi effaith waethaf troseddu casineb, er mwyn meithrin hyder cymunedau yn y system.
- Yn ehangu ystod y cosbau cymunedol sydd ar gael i’r llysoedd eu defnyddio yn hytrach na chyfnodau yn y ddalfa.
I ategu’r polisïau hyn, bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n creu Sefydliad Ymchwil Cyfiawnder Troseddol hyd braich, er mwyn gwreiddio arbenigedd academaidd ar gyfiawnder a diogelwch cymunedol yn y broses llunio polisi yng Nghymru.
Fel rhan o raglen ehangach i ddileu hiliaeth systemig, gan gynnwys yn y system cyfiawnder troseddol, byddwn:
- Yn adolygu canlyniadau cyfiawnder troseddol anghymesur, ac effeithiolrwydd y broses gyfiawnder yn ymdrin â hiliaeth. Bydd yr adolygiadau hyn yn defnyddio Adroddiadau Lammy ac Angiolini.
- Yn archwilio opsiynau o ran trosedd benodol bosib ar gyfer aflonyddu misogynistaidd a gwneud ymddygiad misogynistaidd yn drosedd casineb.
- Yn gosod targedau i gael amrywiaeth ar feinciau ynadon ac yn yr heddlu, a chydweithio gyda chyrff fel y Gymdeithas Ynadon i ehangu’r gronfa o ymgeiswyr.