Addysg Bellach

Byddwn ni’n cynnal adolygiad Gweinidogol o ddarpariaeth ôl-16, gan roi systemau ar waith i roi diwedd ar gystadleuaeth ddiangen mewn addysg ôl-16, a rhoi addysg alwedigaethol ar yr un sylfeini â dysgu academaidd yn yr ysgol a’r brifysgol.

Rydyn ni’n cefnogi proffesiynoli’r gweithlu Addysg Bellach. Drwy ddefnyddio deddfwriaeth bresennol, gallwn osod safonau proffesiynol a gofynion sylfaenol ar gyfer cymhwysedd athrawon Addysg Bellach. Byddwn yn blaenoriaethu denu a chadw’r darlithwyr proffesiwn deuaidd gorau yn yr ystafell ddosbarth.

Byddwn ni’n gweithredu argymhellion adroddiad ColegauCymru 2020, Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth ar addysg alwedigaethol. Bydd rhwydwaith Colegau Addysg Bellach Cymru yn cael ei droi’n hybiau cymunedol ar gyfer cydweithio gyda busnesau ac awdurdodau lleol i greu marchnadoedd llafur lleol mwy cydlynol. Y flaenoriaeth gyntaf fydd gwella sgiliau a chymwysterau’r gweithlu mewn perthynas â gweithgareddau sylfaen yn y sectorau gofal, adeiladu ac amaethyddiaeth.

Byddwn ni’n creu Sefydliadau Technoleg ar safleoedd Addysg Bellach presennol. Bydd hyn yn cryfhau cydweithio rhwng busnesau a Sefydliadau Addysg Bellach, yn cefnogi cymhwyso arloesedd a thechnoleg newydd yn ymarferol, ac yn cryfhau cadwyni cyflenwi rhwng busnesau bach a chanolig a chwmnïau angor.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Yn sicrhau bod Cymru’n ymuno ag Arolwg o Sgiliau Oedolion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sef y PIAAC, ac yn gosod nodau mor fanwl ag yr ydyn ni’n ei wneud ar gyfer ysgolion yng nghyd-destun PISA.
  • Yn cynyddu gwerth ariannol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg i £45 yr wythnos, a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr Addysg Bellach i £2,350 y flwyddyn – gan eu dychwelyd at lefelau canol y 2000au. Byddwn yn codi’r trothwy cymhwysedd ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru fel nad oes yr un person ifanc mewn tlodi yn colli allan.
Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Addysg: darllen mwy