Cynllun ysgolion yr 21ain Ganrif

Byddwn ni’n sefydlu Comisiwn i archwilio ffyrdd y gall ysgolion ddod yn fwy croesawgar i deuluoedd ac yn fwy addas i ddysgu. Bydd hyn yn cynnwys asesu manteision ailgynllunio’r flwyddyn draddodiadol tri thymor, i’w chysoni ag anghenion yr oes fodern. Bydd hefyd yn archwilio rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion yn strwythur y diwrnod ysgol.

Bydd y Comisiwn hefyd yn archwilio cynlluniau ac amgylcheddau ysgolion, er mwyn eu gwneud nhw’n fwy creadigol, personol, gwresog a chroesawgar. Bydd yn hyrwyddo awyru da, ansawdd aer gwell, ac yn blaenoriaethu golau dydd naturiol, sydd i gyd yn effeithio ar berfformiad yn sylweddol. Bydd hefyd yn annog amrywio maint dosbarthiadau, gyda’r nod o gynyddu cydweithio.

Addysg: darllen mwy