Cymwysterau ac Asesu

Rydyn ni o’r farn ei bod hi’n bryd archwilio rhoi mwy o bwyslais ar asesu parhaus yn hytrach nag arholiadau.

Ar ôl ymgynghori â phrifysgolion a chyflogwyr, byddwn ni’n dod â chymwysterau TGAU, Safon Uwch a BTEC i ben yn raddol. Ein nod yw eu disodli gyda fersiwn Cymru o’r Fagloriaeth Ryngwladol. Bydd hon yn drawsddisgyblaethol, ar sail portffolio, o ansawdd uchel, yn ddeinamig ac yn ddigidol. Bydd y Fagloriaeth newydd yn symud oddi wrth y strategaeth o wthio nifer cynyddol o ddisgyblion drwy lwybr academaidd cul, ac yn rhoi statws cyfwerth i addysg fwy galwedigaethol neu dechnegol y bydd ei hangen ar lawer o swyddi’r dyfodol.

Byddwn ni’n adeiladu system addysg sy’n cynnwys profiad byd go iawn, interniaethau, a phrosiectau cymunedol o fathau amrywiol. Gallai hyn gynnwys anfon disgyblion i rannau eraill o’r wlad, neu i wledydd eraill hyd yn oed, er mwyn dod i adnabod diwylliannau eraill a chwblhau prosiectau gwasanaeth gydag aelodau o’r cymunedau hynny.

Addysg: darllen mwy