Addysg Ôl-16

Ers yn rhy hir, rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar roi dewisiadau deuaidd i bobl ifanc pan maen nhw’n 16 oed: y chweched dosbarth neu’r coleg, y gweithle, neu’r brifysgol.

Byddwn ni’n disodli’r oedran gadael ysgol 16 oed gydag ‘oedran cyfranogiad sgiliau’ newydd, sef 18 oed. Mae hyn yn golygu y bydd y garfan gyfan un ai mewn addysg neu waith gyda hyfforddiant. Byddwn ni’n gweithio gyda chyflogwyr a cholegau Addysg Bellach i sicrhau, drwy ein diwygiadau Addysg Bellach a gweithio hyblyg, fod pawb sy’n dymuno cael hyfforddiant yn y gwaith yn gallu cael mynediad ato.

Er mwyn sicrhau cydraddoldeb statws pob llwybr, byddwn ni’n cynyddu cyllid i wasanaethau gyrfaol a chynghori mewn ysgolion a cholegau – gan wyrdroi toriadau dros nifer o flynyddoedd. Bydd yn orfodol bod y rhain yn annog llwybrau galwedigaethol cyn ac ar ôl 16 oed, ynghyd ag addysg uwch.

Byddwn ni’n sefydlu adolygiad strwythurol o’r holl sector Addysg Uwch ac ôl-16 yn ystod chwe mis cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru.

Bydd yr adolygiad hwn yn gyfrifol am ddarparu diwygiadau cwricwlwm mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru, yn debyg i’r rhai sy’n cael eu cyflawni ar gyfer plant rhwng tair ac 16 oed. Bydd y diwygiadau hyn yn symud o ganolbwyntio ar arholiadau, profion ac ardystiadau, er mwyn pwysleisio gwybodaeth, dysg a sgiliau. Bydd y diwygiadau’n cael gwared ag arbenigo cynnar, y duedd i ‘addysgu ar gyfer y prawf’ , a’r dewisiadau artiffisial rhwng pynciau STEM a phynciau eraill.

Bydd cyflog ac amodau darlithwyr yn cael eu gwella i gadw ac i ddenu gweithwyr proffesiynol o ansawdd uchel.

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

10,420 votes

Gyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Addysg: darllen mwy