Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr

Byddwn ni’n gostwng uchafswm y ffi ddysgu y gellir ei chodi ar fyfyrwyr o Gymru ym mhrifysgolion Cymru i £7,500. Dyma fydd y cam cyntaf tuag at ein nod hirdymor o wneud addysg brifysgol yn rhad ac am ddim unwaith eto.

Bydd benthyciadau a grantiau dysgu a chynhaliaeth yn cael eu darparu fel maen nhw ar hyn o bryd i fyfyrwyr sy’n astudio mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig y tu allan i Gymru.

Byddwn ni’n cynyddu’r taliad grant addysgu sy’n gysylltiedig â phob myfyriwr i adlewyrchu costau rhesymol y pwnc yn well, ynghyd â’i werth cymdeithasol ac economaidd i fyfyrwyr a threthdalwyr.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Addasu’r rhwydwaith Seren i gynnwys partneriaeth rhwng prifysgolion Cymru i gefnogi pobl o gefndiroedd difreintiedig i wneud cais i’r brifysgol.
  • Yn cyflwyno cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i dalu costau Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i ddarparu darpariaeth fwy ar gyfer cyrsiau STEM, peirianneg, rheoli, rhai cyrsiau meddygol, a chyrsiau technoleg.
  • Yn diogelu symudedd myfyrwyr am i mewn ac allan rhwng Cymru a‘r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Addysg: darllen mwy