Fframwaith Sgiliau i Gymru
Ar hyn o bryd, mae’r rhai sy’n dewis peidio â mynd i’r brifysgol yn cael eu gwasanaethu’n wael gan ein system addysg, os cânt gefnogaeth o gwbl. Drwy danfuddsoddi mewn addysg ymarferol, alwedigaethol, a thechnegol, rydyn ni’n gwastraffu doniau ac yn atal pobl rhag gwireddu eu potensial.
Byddwn ni’n datblygu Fframwaith Sgiliau newydd i Gymru er mwyn cyflawni ffordd well o gyfateb swyddi i bobl a phobl i swyddi.
Byddwn ni’n creu llwyfan canolog a fydd yn dod â chymorth gyrfaol a chyflogadwyedd sy’n bodoli eisoes ynghyd, er mwyn galluogi pobl i wneud y canlynol:
- Nodi eu sgiliau, eu profiadau, a’u hanes gweithio mewn proffil ar-lein.
- Creu asesiad risg o’u proffil galwedigaeth a’u sgiliau presennol, a dod o hyd i hyfforddiant, profiad gwaith, a chyflogaeth amgen addas.
- Cysylltu ar-lein gyda chyflogwyr i drafod sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith.
- Dysgu am yrfaoedd, hyfforddiant, a chyfleoedd gwaith mewn amser go iawn.
- Cael mynediad at eu Cyfrif Dysgu Personol a gwneud penderfyniadau o ran sut dylid buddsoddi’r cyfrif hwnnw.