Cau’r bwlch cyrhaeddiad

Mae tiwtora neu hyfforddiant un-i-un yn gallu newid pethau’n llwyr – ond prin yw’r teuluoedd sy’n gallu fforddio hyn ar hyn o bryd. Mae disgyblion sy’n cael tiwtora un-i-un yn dueddol o wneud yn well na’u cyfoedion mewn ystafell ddosbarth draddodiadol. Byddwn ni’n cyflwyno system genedlaethol o diwtora un-i-un ac mewn grwpiau bach mewn ysgolion, lle bydd hawl gan bob disgybl i system hyblyg o diwtora yn yr ysgol.

Mae’r bwlch cyrhaeddiad yn tyfu yn ystod misoedd yr haf pan nad yw plant yn yr ysgol. Byddwn ni’n adeiladu ar raglenni haf gwirfoddol sydd wedi’u cynllunio i bontio’r bwlch.

Er ei bod yn llai cyffredin yng Nghymru na gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, mae addysg breifat yn cyfrannu at anghyfartaledd ym maes addysg. Byddwn ni’n diddymu rhyddhad ardrethi i ysgolion preifat gan ddilyn argymhellion adolygiad Barclay yn yr Alban.

Bydd ysgolion mewn cymunedau difreintiedig yn cael adnoddau i recriwtio ac i gadw athrawon cymwys a phrofiadol. Byddwn ni’n cynllunio llwybrau gyrfaol addysg fel eu bod yn amodol ar dreulio amser mewn ysgolion sydd â lefelau uwch o amddifadedd.

Byddwn ni’n ehangu cyfleoedd i rieni i fod yn rhan o waith dysgu disgyblion. Byddwn ni’n peilota rôl yn arddull ‘para-athro’ yn yr ystafell ddosbarth, er mwyn atynnu ystod ehangach o bobl i rannu eu sgiliau a’u profiadau. Byddwn ni’n creu rolau mentora a hyfforddi mewn ysgolion ar gyfer pobl sydd wedi ymddeol.

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

10,421 votes

Gyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Addysg: darllen mwy